Actio yn y gwaed

Mae'r actores Lowri Palfrey yn ymddangos yn y gyfres newydd o nos Fercher, Ionawr 20. A hithau'n ferch i'r actores Lisa Palfrey, ac yn wyres i Eiry Palfrey, cafodd Cymru Fyw sgwrs gyda'r dair cenhedlaeth o actorion yn yr un teulu a holi ydy perfformio yng ngwaed y Palfreys.

Ffynhonnell y llun, S4C

Disgrifiad o'r llun, Lowri Palfrey yn chwarae rhan Annest Haf yn 'Gwaith/Cartref'

Beth yw eich atgofion chi o'ch plentyndod a sut ddechreuodd y diddordeb mewn actio?

Lowri: "Odd e'n normal iawn i fi yn tyfu lan gyda mam yn y byd actio. O'n i jyst yn "mynd i gwaith mam" yn hytrach na rhywbeth cyffrous.

"Pan o'n i'n blentyn wnes i berfformio mewn sioe efo mam, gyda'r National Theatre. Wnes i deimlo cyffro bod ar lwyfan bryd 'ny, wnes i rili fwynhau'r broses. Ond es i i ysgol gynradd yn Llundain a wedyn Ysgol Plas Mawr yng Nghaerdydd. Wnes i astudio Drama i TGAU a Lefel A, o'n i'n mwynhau actio ond yn y dyddie' hynny o'n i ddim yn meddwl bod dim byd oedd mam yn 'neud yn cool!

"Dwi erioed 'di adnabod Mamgu fel actores, ond mae hi'n berfformiwr talentog iawn. Mae ei gweld hi'n darllen barddoniaeth neu'n siarad yn gyhoeddus, mae'n bleser ei watcho, mae hi wastad yn creu argraff.

"Buais i'n gweithio am gyfnod yn amgueddfa V&A yn Llundain, ges i'r fraint o weithio yno tra bo' ni'n 'neud arddangosfa David Bowie. Oedd e'n gyffrous iawn a wnaethon nhw gynhyrchu ffilm fel rhan o'r prosiect a dyna pryd wnes i feddwl fy mod i eisiau bod ynddo fe, bo' fi eisiau actio. Felly wnes i gais i'r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd a wnes i gwrs MA yno am flwyddyn."

Disgrifiad o'r llun, Lisa Palfrey

Lisa: "O'n i'n mynd i setiau pan o'n i'n fach ac yn meddwl "waw, pam bod mam mo'yn dod adre os mae'n gallu bod fan hyn?"

"Dechreues i actio'n broffesiynol pan o'n i'n 20 oed, ges i ran yn 'District Nurse' yn chware merch 15 oed. O'n i'n ferch fach eitha swil, ond o'n i'n gwbod mai actio o'n i ishe neud.

"Odd Lowri yn saith wythnos oed pan ddaeth hi ar set 'da fi gynta'. Dwi'n credu bod hi'n bwysig i blentyn wbod lle mae eu rhieni nhw'n gweithio. O'n i'n gweithio ar raglen deledu i blant 'Briwsion' fel cornflake wedi ffrio! O'n i'n bwydo Lowri ar y pryd, felly oedd rhaid iddi hi ddod 'da fi.

"Dechreuodd Lowri yn broffesiynol pan oedd hi'n wyth oed pan gafodd hi ran mewn cynhyrchiad gyda'r National Theatre. Ond dim actio oedd hi mo'yn 'neud ar y pryd, ond mynd trwy'r byd ffasiwn."

Ffynhonnell y llun, Eiry Palfrey

Disgrifiad o'r llun, Eiry Palfrey

Eiry "O'n i'n adrodd lot ac yn perfformio mewn Steddfodau ers pan o'n i'n reit fach. Oedd fy mam a nhad yn actio'n amatur erioed a dyna'r ffordd ddechreues i.

"Roedd fy rhieni yn athrawon felly dyna oedd y dylanwad teuluol cynta' arna i, wnes i hyfforddi i fod yn athrawes ar 么l cael gradd a dyna sut ddechreues i fy ngyrfa. Yn dilyn hynny ges i waith gyda'r 大象传媒, yn yr adran Addysg ac yn cyflwyno rhaglenni gyda HTV. Fues i'n gwis feistr ar 'Camau Cant a Mil' a chyflwyno rhaglenni gwyddonol.

"Wedyn es i mewn i'r byd actio go iawn. Ges i ran yn 'Dinas' a sbel ar 么l hynny fues i'n cynhyrchu."

Lowri, dwed ychydig am dy ran yn 'Gwaith/Cartref'?

Lowri: "Dwi'n chware rhan Annest Haf, person weddol ifanc. Mae hi'n athrawes ddrama ac yn keen iawn i wneud argraff dda gyda'r brifathrawes, ond dydy pethe ddim wastad yn gweithio mas.

"Dyma'r peth cyntaf i fi wneud ar S4C, o'dd e'n brofiad ffantastig. Gobeithio bydd pobl yn mwynhau'r gyfres."

Lisa: "Jyst fel pob mam, rwy' eisiau i Lowri fod yn hapus. Rwy'n rili edrych 'mlaen i weld 'Gwaith/Cartref'. Dwi'n fam browd iawn."

Eiry:"Odd e'n sioc mawr i ni gyd, achos y peth dwetha odd Lowri ishe neud ers hydoedd oedd actio. Ond da iawn Lowri, wi'n browd iawn ohoni."

Beth sy' nesa ar y gweill?

Lowri: "Dwi'n gweithio yn Llundain ar hyn o bryd yn perfformio mewn sioe fel rhan o'r VAULT Festival. Rydyn ni'n creu sioeau byr newydd, lle ni'n dechrau gyda dim byd ac yn creu nhw mewn pythefnos."

Lisa: "Rwy'n chware un o'r prif gymeriadau yn 'Line of Duty' sydd yn ymddangos ar 大象传媒2 yn fuan, a dwi ar fin dechrau ffilmio cyfres 3 o 'Y Gwyll / Hinterland'.

Eiry: "Er fy mod i wedi ymddeol, dwi'n dal i gadw fy llaw i mewn, bydda i'n ysgrifennu a pherfformio sioe yn Eisteddfod y Fenni am Arglwyddes Llanofer."

Ffynhonnell y llun, Eiry Palfrey

Disgrifiad o'r llun, Lisa, Eiry a Lowri Palfrey

Actio yn y gwaed?

Lisa: "Fi'n credu os ma'ch teulu'n neud rhywbeth mae e yn y gwaed."

Lowri: "Se'n i'n gweud bod actio yn y gwaed achos wnes i drio ffeindio rhywbeth arall o'n i'n hoffi, ond wnes i ffili! Dyma beth fi rili eisiau neud."