Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Deall Cymru: Addysg Gymraeg ers datganoli
- Awdur, Arwyn Jones
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Prin fod angen dweud fod ysgolion cyfrwng-Cymraeg wedi bodoli cyn sefydlu'r Cynulliad; cafodd yr ysgol gyntaf ei sefydlu yn Llanelli yn 1947 gyda'r ysgol uwchradd gyntaf yn dilyn yn Y Rhyl yn 1956.
Ers hynny, hanes o dwf di-dor ydy hanes y galw am addysg cyfrwng Cymraeg.
Eleni, mae yna 435 o ysgolion cynradd Cymraeg a 50 o ysgolion uwchradd yn dysgu rhyw chwarter o holl ddisgyblion Cymru.
Ond i ba raddau allwn ni ddweud fod bodolaeth y Cynulliad a Llywodraeth Cymru wedi cael effaith ar y Gymraeg ac addysg Gymraeg?
'Unfed awr ar ddeg Cymraeg ail-iaith'
Wel yn un peth mae mwy o bwyslais wedi bod ar y Gymraeg yn yr ysgolion cyfrwng-Saesneg.
Bellach mae pob plentyn yng Nghymru yn gorfod astudio Cymraeg ar gyfer eu cyrsiau TGAU. Ond mae yna bryderon difrifol wedi eu codi dros safon y ddarpariaeth ar gyfer y cyrsiau Cymraeg ail-iaith.
Pan fo unrhyw ddisgybl yn gadael yr ysgol yng Nghymru yn 16 oed, mi fydd o neu hi wedi bod yn astudio'r Gymraeg ers 13 mlynedd.
Ond prin iawn ydy'r bobl fyddai'n honni fod hynny yn arwain at Gymru wirioneddol ddwy-ieithog. Y pryder ydy mai, i'r mwyafrif helaeth, mae'r Gymraeg yn mynd yn angof gyda threigl amser.
Ddwy flynedd yn 么l cafodd adroddiad ei gyhoeddi dan gadeiryddiaeth yr academydd Dr Sioned Davies o Brifysgol Caerdydd. Roedd ei chanfyddiadau o'r pwnc yn ddi-flewyn ar dafod:
"Ni ellir gwadu ei bod yn unfed awr ar ddeg ar Gymraeg ail iaith. Er bod nifer o athrawon gwych yn gweithio yn y maes, ac er bod gennym enghreifftiau unigol o addysgu ardderchog, mae'r safon yn gyffredinol wedi gostwng yn flynyddol yn 么l adroddiadau Estyn; yn wir, mae lefelau cyrhaeddiad disgyblion yn is nag mewn unrhyw bwnc arall.
"Petai hyn wedi cael ei ddweud am Fathemateg, neu am y Saesneg, diau y byddem wedi cael chwyldro. Ond mae cyrhaeddiad isel mewn Cymraeg ail iaith wedi cael ei dderbyn fel y norm.
"Os ydym o ddifrif yngl欧n 芒 datblygu siaradwyr Cymraeg a gweld yr iaith yn ffynnu, rhaid newid cyfeiriad, a hynny fel mater o frys cyn ei bod yn rhy hwyr."
22.2% yn cael addysg Gymraeg
Yn 2010 mi wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi strategaeth addysg Gymraeg gyda chyfres o dargedau. Fel rhan o'r strategaeth mae'r llywodraeth hefyd yn cyhoeddi adroddiadau blynyddol yn crynhoi pa lwyddiant neu fethiant sydd wedi bod yn ystod y flwyddyn.
Cafodd y diweddaraf ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf y llynedd.
Un o'r targedau ydy cael "mwy o blant 7 oed yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg". Y targed ydy y bydd 25% o blant 7 oed yn derbyn addysg gyfrwng gymraeg erbyn 2015 a 30% erbyn 2020.
Yn 2014, 22.2% oedd y ffigwr. Dyma oedd gan yr adroddiad blynyddol i'w ddweud:
"Roedd dros fil yn fwy o ddysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn 2014 nag yn 2010. Fodd bynnag, er bod twf wedi bod mewn addysg cyfrwng Cymraeg ers cyhoeddi`r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, nid yw'r twf wedi bod i`r graddau y byddai Llywodraeth Cymru wedi'i ddisgwyl.
"Serch hynny, mae'r garfan Blwyddyn 2 wedi cyrraedd y nifer uchaf ers 2004 er, oherwydd bod y garfan gyfan o ddysgwyr saith-oed wedi cynyddu, mae canran y dysgwyr ym Mlwyddyn 2 a asesir yn y Gymraeg wedi gostwng am y tro cyntaf."
Mae yna hefyd wahaniaeth mewn rhannau gwahanol o Gymru. Mae'r tablau isod yn dangos faint o newid sydd wedi bod yn nifer a chanran y plant 7 oed sy'n derbyn eu haddysg yn y Gymraeg yn y gwahanol gynghgorau.
Er gwetha'r ymdrech a'r arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru dros bedair blynedd, cynyddu o 21.8% i 22.2% wnaeth y niferoedd dros Gymru gyfan; cynnydd o 0.4%.
Gwelwyd cynnydd cyson mewn niferoedd TGAU Cymraeg iaith gyntaf dros y pum mlynedd ers cyhoeddi'r strategaeth (o 5,391 i 5,546). Roedd cynnydd hefyd mewn niferoedd TGAU Cymraeg ail iaith dros yr un cyfnod (o 21,424 i 21,661).
O edrych ar Safon Uwch / Lefel-A mae yna ostyngiad wedi bod yn y niferoedd sy'n astudio Cymraeg iaith gyntaf ac ail iaith dros y tair blynedd diwethaf, a bellach mae wedi cyrraedd y nifer isaf dros gyfnod o ddeng mlynedd.
Felly er bod y llywodraeth wedi ymrwymo i gynyddu'r niferoedd a gwella'r ddarpariaeth, cymysg ydy'r llwyddiant wrth edrych ar addysg cyfrwng Cymraeg.
Y Coleg Cymraeg
Un enghraifft glir arall o effaith datganoli ar addysg cyfrwng Cymraeg ydy bodolaeth y Coleg Cymraeg.
Mae'r Coleg yn gweithio gyda ac ar draws holl brifysgolion Cymru. Does dim adeilad, ond yn hytrach mae'n talu am gyflogi darlithwyr sy'n gallu dysgu trwy gyfrwng yr iaith yn ogystal a chynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr ddilyn cyrsiau yn y Gymraeg.
Wrth edrych ar y niferoedd does dim dwywaith fod cynnydd wedi bod; yn 么l ffigyrau y coleg mae 1,000 yn rhagor o fyfyrwyr yn astudio rhan o'u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg o'i gymharu a 2011, mae 115 yn rhagor o ddarlithwyr a 600 o bobl ifanc wedi derbyn ysgoloriaeth.
Mae hefyd wedi costio 拢19 miliwn dros y 5 mlynedd ddiwethaf.
Ond o ystyried fod cymaint o arian wedi ei wario ar ddenu pobl ifanc i astudio rhan o'u cwrs prifysgol trwy gyfrwng y Gymraeg, tybed fyddai rhywun yn disgwyl gweld mwy o gynnydd? Wedi'r cyfan, nid da lle gellir gwell.
O edrych tua'r dyfodol mae yna gyfleoedd pellach ar y gweill i hybu'r defnydd o'r Gymraeg o fewn y system addysg. Mae ysgolion wrthi yn llunio cwricwlwm newydd fydd, yn 么l y son, gyda'r Gymraeg yn rhan ganolog.
Efallai gyda dyfodiad cwricwlwm newydd, unigryw i Gymru, y bydd mwy o lwyddiant wrth geisio hybu addysg Gymraeg.
Deall Cymru
Mae`r tymor Deall Cymru gan 大象传媒 Cymru yn dangos beth sy`n gwneud Cymru yn wahanol. Bydd y Post Cynta ar 大象传媒 Radio Cymru yn canolbwyntio ar bob cam o addysg plant a phobol ifanc yr wythnos hon.