Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
"Y cam naturiol"
Gall mabwysiadu plentyn fod yn daith emosiynol a chymhleth. Mae Andy a Catrin o Gaerdydd, aeth trwy'r broses ddwywaith i fabwysiadu mab a merch, yn dweud eu hanes wrth Cymru Fyw:
Cwestiynau personol
Roedden ni wedi bod yn trio ers nifer o flynyddoedd i gael plant, ond heb lwyddo. Fe gymrodd hi dipyn o amser i ni dderbyn a dygymod 芒'r ffaith na fyddem ni'n medru cael plant naturiol ein hunain.
Ond tua chwe mlynedd yn 么l, unwaith i ni gyrraedd y pwynt hwnnw, roedd ystyried mabwysiadu yn teimlo fel y cam naturiol nesaf i ni.
Fe gymrodd hi tua 10 mis o gychwyn y broses i gyfarfod ein mab am y tro cyntaf, cyfnod cymharol fyr o gymharu 芒 phrofiad pobl eraill 'dyn ni yn eu 'nabod, ond roedd yn teimlo'n hir dros ben ar y pryd.
Y cam cyntaf oedd mynd i noson wybodaeth, ac yna daeth gweithiwr cymdeithasol i ymweld 芒 ni yn y t欧. Wedyn cael mynd ar gwrs tridiau i bobl oedd yn dymuno mabwysiadu, er mwyn ein paratoi ar gyfer y broses. Yn sgil hyn wedyn, bu gweithiwr cymdeithasol arall yn ymweld 芒 ni bob pythefnos am tua chwe mis.
Roedd hi'n holi lot o gwestiynau, nifer yn rhai personol tu hwnt, ac yn paratoi adroddiad ar gyfer y panel mabwysiadu. Doedd hyn ddim yn hawdd gan bod angen cymaint o wybodaeth am ein teulu, ein perthynas a'n materion ariannol. Aethom o flaen y panel mabwysiadu tua diwedd 2010, a chael ein cymeradwyo fel darpar rieni mabwysiadol.
Yn anhygoel, fe gawsom wybod am fodolaeth Gruffudd yr wythnos ganlynol, ond wedyn bu gweithiwr cymdeithasol arall yn ymweld 芒 ni i benderfynu os oedden ni'n addas i'r plentyn yn benodol. Ac erbyn dechrau 2011, cawsom ein cymeradwyo fel rhieni mabwysiadol iddo.
Teimladau cymysg
Roedd cwrdd 芒'r plant am y tro cyntaf, ar y ddau achlysur, yn nhai eu rhieni maeth yn brofiad rhyfedd. Roedd ein mab Gruffudd yn 10 mis oed pan wnaethon ni ei fabwysiadu, a'n merch Martha yn naw mis oed.
Roedd gennym deimladau cymysg o gyffro a nerfusrwydd ar y ddau achlysur. Dros y dyddiau wedyn, roeddem yn ymweld gan aros am ychydig yn hirach bob tro, a ffeindio hi'n fwy anodd i adael bob diwrnod.
Wedyn daeth y plant i ymweld 芒 ni yn ein t欧 ni. Roedd rheiny'n ddyddiau rhyfedd, cael bod yn fam a thad drwy'r dydd ond yn gorfod dychwelyd y babis bob nos at eu rhieni maeth. Roedd cael dod 芒 nhw adref am byth ar ddiwedd yr wythnos yn rhyddhad enfawr.
Roedd y broses ychydig yn haws yr ail dro wrth i ni fabwysiadu ein merch, gan ein bod yn gwybod beth i'w ddisgwyl. Ond bu'n rhaid mynd ar gwrs arall ac aros sawl mis cyn cael ein matsio gyda Martha.
Roedd y broses o ymweld 芒 hi ar y cychwyn yn anodd, yn ymarferol ac yn emosiynol, yn enwedig gan nad oedd Gruffudd yn cael bod yn rhan o'r broses ymweld am y dyddiau cyntaf.
Heriau i'r dyfodol
'Ry'n ni'n sylweddoli y bydd gan ein plant rai heriau yn ychwanegol i blant eraill i ddygymod 芒 nhw wrth iddyn nhw dyfu i fyny. Maen nhw'n ymwybodol - ar lefel dealltwriaeth plant pump a thair oed - eu bod wedi'u mabwysiadu.
Bydd gyda ni lawer i'w egluro wrth iddyn nhw dyfu'n h欧n, ond mae ein gobeithion ar eu cyfer yr un peth 芒 phob rhiant arall. Eu bod yn tyfu i fod yn oedolion iach, hapus a hyderus ac yn llwyddo i orau eu gallu yn beth bynnag y maen nhw'n dewis ei wneud.
Mae ein t欧 ni nawr yn brysur a swnllyd a rydyn ni'n rhyfeddu bob dydd ar faint o egni sydd gan y plant, a faint o lanast gall dau mor fach ei wneud!
Rydyn ni wedi gwneud cymaint o ffrindiau newydd, wedi ymweld 芒 lot o lefydd gwahanol a gwneud amryw o bethau na fydden ni byth wedi eu gwneud oni bai am ein plant.
Mae ein bywyd cymaint yn fwy cyfoethog.