Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Chwerthin tra'n gweithio
Mae o wedi godro gwartheg, dysgu llond dosbarth o blant ac wedi bod yn beilot yn y llu awyr. Ond mae'r digrifwr Rhod Gilbert yn benderfynol o gael rhagor o brofiad gwaith.
Cafodd Cymru Fyw sgwrs gyda'r g诺r doniol o Gaerfyrddin am ei brofiadau ar 'Rhod Gilbert's Work Experience' a'r joban go iawn yn gwneud i filoedd o bobl chwerthin ar lwyfanau ar hyd a lled y DU.
Edmygedd
"Rwy'n eu hedmygu yn fawr. Maen nhw i gyd yn gwneud swyddi pwysig ac allweddol." Dyna ydi barn Rhod Gilbert am y bobl y mae o wedi bod yn eu cysgodi yn ystod y cyfresi teledu poblogaidd.
"Fy'swn i ddim yn gallu gwneud y swyddi 'ma go iawn, maen nhw tu hwnt i fy ngallu i."
Ond faint o ddarllenwyr Cymru Fyw sgwn i fyddai'n mentro i lwyfan mawr fel yr O2 yn Llundain a gwneud i filoedd o bobl chwerthin nes eu bod nhw'n s芒l?
Dyma i chi yr un Rhod Gilbert aeth i astudio ieithoedd modern ym Mhrifysgol Caerwysg ac oedd yn rhy swil i siarad efo'r myfyriwr oedd yn yr ystafell drws nesa' am dair wythnos.
"Rwy'n dal i fod yn berson swil. Petasai gen i amser mi fyswn i'n hoffi edrych ar seicoleg y peth. Dwi'n teimlo'n hynod o gyfforddus ar lwyfan ond dwi'n teimlo'n hunan ymwybodol iawn pan rwy' mewn caffi yn cael cinio ar fy mhen fy hun."
Comedi a Sir G芒r
Er ei swildod cafodd Rhod annogaeth gan ffrindiau wnaeth ei argyhoeddi ei fod yn ddoniol ac yn 2005 cafodd ei enwebu am wobr Perrier yng Ng诺yl y Ffrinj yng Nghaeredin. Dydy o ddim wedi edrych n么l ers hynny.
Mae bywyd ar y syrcit gomedi yn gallu bod yn lle cystadleuol iawn. Pwy o blith ei gyfoedion sy'n gwneud i Rhod chwerthin fwyaf?
"Mae Stewart Lee ar hyn o bryd yn gwneud stwff ardderchog. Mae'n ymddangos yn gyson ar y teledu ac mae ei one-liners e yn gyson o'r safon ucha'.
"Rwy' hefyd yn mwynhau Daniel Kitson. Dy'ch chi ddim yn ei weld ar y teledu a radio a dyw e byth yn g'neud cyfweliadau. Mae e am i bethau aros felly, ond mae e'n ddoniol iawn."
Mae Rhod wedi bod yn ffrinidau mawr ers blynyddoedd gydag Elis James, digrifwr arall o'r gorllewin sy'n gwneud enw iddo ei hun ar y syrcit. Oes yna rywbeth yn y d诺r tua'r Sir G芒r 'na sy'n gyfrifol am y doniolwch naturiol?
"Wn i ddim! Mae Elis yn ddoniol iawn ac wrth gwrs mae fy ngwraig Sian hefyd o Gaerfyrddin, ac yn perfformio a sgwennu comedi. Un arall o'r ardal yw Dan Mitchell sy'n boblogaidd iawn ar y syrcit.
"Mae'n rhyfedd bod yna dri ohonom ni o'r un ardal. Pan ro'n i'n tyfu i fyny, Mike Doyle oedd yr unig gysylltiad wyddwn i amdano rhwng Sir G芒r a'r byd comedi. Ond roedd ei adloniant e yn wahanol, yn cyfuno comedi gyda cherddoriaeth."
Mi wnaeth Cymru Fyw fentro gofyn pwy oedd y person doniolaf yng nghartre Rhod - fo 'ta Sian?
"Fi. Heb amheuaeth!" chwarddodd. "Ry'n ni yn gweld doniolwch yn yr un pethau. Ers blynyddoedd rwy' wedi bod yn awyddus i ddatblygu comedi sefyllfa. Rwy'n gweithio ar hynny ar hyn o bryd, felly mae sgiliau Sian (Harries) o help mawr i mi.
"Mae hi eisoes wedi helpu i sgwennu'r gyfres gomedi 'Man Down' ar Channel 4 ac yn sgriptio'n gyson i raglenni comedi 大象传媒 Radio 4, felly gobeithio y bydd ganddi hi ran fawr i'w chwar'e os caiff fy nghyfres i ei chomisiynu."
Y sac a phigo bresych
Cyn iddo lwyddo yn y byd comedi a chyn gweithio ar 'Rhod Gilbert's Work Experience' mi gafodd o fwy na'i si芒r o brofiad gwaith yn y byd go iawn:
"Bues i'n gwneud pob math o swyddi. Fues i yn waiter pan ro'n i tua 15 oed. Wnaeth hynny bara diwrnod nes i mi gael y sac! Dwi wedi gwneud nifer o swyddi gwahanol ac wedi cael cryn dipyn o hwyl. Fues i'n teithio tipyn pan yn iau a dwi'n cofio gwneud pethau fel pigo bresych yn Awstralia."
Mae 'na hen ddywediad: "Peidiwch byth 芒 gweithio gyda phlant, anifeiliad a... newyddiadurwyr". Ond mae Rhod wedi anwybyddu'r canllaw hwnnw'n llwyr.
"Sai'n credu yn y dywediad yna. Chewch chi ddim gwell comedi na rhai o'r pethe mae plant yn eu dweud ac ymddygiad rhai anifeiliad! Petai'n rhaid i mi 'neud un o'r profiadau gwaith fel swydd pob dydd, yna rhaid i mi ddweud fy mod i wedi caru fy amser fel athro, er mai athro gwael iawn f'aswn i!"
'A dyma'r newyddion...gyda Rhod Gilbert'
"Ro'n i'n poeni 'chydig cyn ffilmio'r rhaglen am newyddiaduraeth (y gyntaf yn y gyfres newydd)," meddai. "Doeddwn i ddim yn gallu gweld o ble roedd yr hiwmor yn mynd i ddod gan bod lot o'r newyddion yn ddifrifol. Ond ges i syrpreis ar yr ochr orau.
"Mae angen hiwmor iach i ddelio gyda phwysau a deadlines y diwrnod gwaith ac r'odd pobl fel Nick Palit, gohebydd 'Wales Today' yn dipyn o gymeriad. Ro'dd pawb wedi mynd i ysbryd y darn, chwarae teg."
Er bod Rhod yn mynnu na fyddai o'n gallu ymdopi yn hir iawn yn unrhyw un o'r swyddi y mae o wedi rhoi cynnig arnyn nhw hyd yma, mae'n dweud mai bod yn beilot yn y llu awyr, o bell ffordd, oedd yr anodda':
"Mae'r hyfforddiant mae'r bobl yma yn gorfod mynd drwyddo, a'r gwaith maen nhw yn ei gyflawni, mae e jyst yn anhygoel. Ro'n i'n ffeindio fe'n anodd iawn gwneud y tasgau pan ro'n i 'da nhw. Fair play... mae beth maen nhw yn ei 'neud ar ein rhan ni.. dwi'n llawn edmygedd."
Yn ogystal 芒 datblygu ei gomedi sefyllfa, mae Rhod 芒'i fryd ar gyfres deithio gyda Greg Davies, digrifiwr arall sydd 芒 gwreiddiau Cymreig,
"Fe wnaethon ni 'The World's Most Dangerous Roads' 'chydig flynyddoedd yn 么l. Roedd e'n un o'r prosiectau gorau rwy' rioed wedi gweithio arno. Felly 'sw'n i'n hoffi cael cyfle tebyg eto.
"Ar ben hynny, mi fyddai'n parhau i sgwennu. Y cyngor gorau ges i 'rioed fel digrifwr oedd 'dalia i sgwennu'.
"Mae popeth arall yn deillio o'r sgwennu. Felly dyna fy nghyngor innau i ddigrifwyr newydd - 'daliwch i sgwennu'."
Rhod Gilbert's Work Experience, 大象传媒 One Wales, nos Fawrth 1 a 8 Mawrth am 22:40