Iechyd: Dim o wledydd Prydain yn well na'r gweddill
- Cyhoeddwyd
Mae adolygiad rhyngwladol wedi dod i'r casgliad nad oes un o'r pedair system iechyd yng ngwledydd Prydain yn perfformio'n well na'r gweddill yn gyson.
Dywedodd y Sefydliad Dros Gydweithio a Datblygiad Economaidd (OECD) y gallai'r gwasanaethau iechyd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon gydweithio'n agosach a dysgu mwy gan ei gilydd am ffyrdd i wella safon a diogelwch gofal.
Ond fe ddywedodd uwch swyddog o'r OECD wrth 大象传媒 Cymru fod y sefydliad yn "bryderus" am anallu byrddau iechyd Cymru i gwblhau newidiadau a gwella safon gofal.
Mae'r adolygiad hefyd yn awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru gael mwy o reolaeth uniongyrchol dros sut y mae'r gwasanaeth iechyd yn gweithio yng Nghymru.
Wedi'r cyhoeddiad, mae Carwyn Jones wedi galw ar David Cameron i ymddiheuro, yn dilyn ei feirniadaeth o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Gwasanaeth 'eilradd'
Pan gafodd yr arolwg ei gynnal, roedd yn destun ffrae rhwng y Gweinidog Iechyd yng Nghymru ac Ysgrifennydd Iechyd San Steffan.
Yn Hydref 2014 fe wnaeth Jeremy Hunt honni fod cleifion yng Nghymru yn derbyn gwasanaeth iechyd "eilradd", gan awgrymu bod Llywodraeth Cymru'n ceisio osgoi bod yn rhan o adolygiad yr OECD.
Gwadu'r honiad wnaeth Mark Drakeford, Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, gan fynnu na fyddai'r gwasanaeth iechyd yma yn "ddioddefwr i gynllun gan y Ceidwadwyr i lusgo ei enw drwy'r mwd".
Ond fe ddaeth adroddiad yr OECD i'r casgliad fod "ymrwymiad eglur a chyson i safon gofal" ymhob un o'r pedair system iechyd yn y DU.
Ychwanegodd bod gwneud cymhariaethau rhwng y pedair system iechyd yn anodd, gan fod cyn lleied o wybodaeth am gyraeddiadau'n cael ei gyhoeddi o fewn y pedair gwlad, na mewn cymhariaeth a gwledydd eraill.
Dywedodd yr adroddiad nad oes un o'r pedair system iechyd yng ngwledydd Prydain "yn perfformio'n well na'i gilydd yn gyson", ac mai ychydig iawn sy'n cael ei wneud yn y gwledydd er mwyn dysgu gwersi ar y cyd.
Sialensau i Gymru
Dywed yr OECD bod y system iechyd yng Nghymru yn "parhau i fod yn un gymharol ifanc", lai nag 20 mlynedd wedi datganoli. Ychwanegodd yr adroddiad bod y byrddau iechyd Cymreig wedi methu a chyflawni eu potensial, ac mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd mwy o reolaeth uniongyrchol.
Wrth siarad gyda 大象传媒 Cymru, dywedodd Mark Pearson, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyflogaeth, Llafur a Materion Cymdeithasol OECD: "Rydym yn pryderu am y byrddau iechyd.
"Nid oedd hwn yn syniad oedd yn anghywir mewn egwyddor...dyw e heb weithio'n dda yng Nghymru - y syniad bod gan y canolbwynt syniad cyffredinol o'r hyn sydd yn digwydd ond yn gadael i'r byrddau iechyd benderfynu sut mae gwella gofal iechyd ymhob awdurdod bychan - sut mae strwythuro gofal iechyd.
"Fe ddylai fod yn fater o adael i fil o flodau i flaguro - ond os edrychwch chi ar y canlyniad nid ydym yn gweld gwahaniaeth mawr ers 2009. Os edrychwch chi ar feddygfeydd meddygon teulu yng Nghymru - nid ydyn nhw'n edrych yn wahanol iawn i sut y bydde nhw wedi edrych 20 mlynedd yn 么l.
"Yn y gwledydd sy'n perfformio orau fe welwch chi bob math o arloesedd yn digwydd - fe welwch chi weithwyr cymdeithasol, swyddogion tai a swyddogion cyflogaeth yn gweithio gyda'i gilydd i wella bywydau pobl. Nid ydw i'n gweld hyn yn digwydd yng Nghymru ac mae'n bendant yn bryder."
Yn 么l yr OECD dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio mwy o ddylanwad canolog a gwneud mwy o "ofynion penodol" ar fyrddau iechyd er mwyn creu gwelliannau i'r system iechyd. Byddai hyn yn golygu mabwysiadu rheolaeth perfformiadau "o'r top i lawr" - sydd yn debycach i'r drefn yn Lloegr meddai'r adroddiad.
Ond mae'r sefydliad hefyd yn beirniadu'r drefn yn Lloegr gan ddweud bod gormod o reolaeth yn dod gan y llywodraeth, a gormod o gyrff yn ymwneud a rheoleiddio.
Mae'r OECD yn galw ar Loegr i symleiddio ei system iechyd, gan ganolbwyntio ar drefn sy'n cael ei harwain gan gleifion a chlinigwyr, a datblygu gwasanaethau sydd wedi eu lleoli yn y cymunedau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2016