Cwmni'n penderfynu peidio ailenwi Plas Glynllifon

Ffynhonnell y llun, Iwan Williams

Mae'r cwmni sy'n gyfrifol am werthu plasty hanesyddol 102 o 'stafelloedd yng Ngwynedd wedi penderfynu peidio newid ei enw yn dilyn gwrthwynebiad yn lleol.

Dywedodd David Currie and Co o Fanceinion bod ymgais o enwi Plas Glynllifon fel 'Newborough Hall' wedi ei wneud gan ei adran farchnata.

Daw'r ffrae ddiweddaraf yn dilyn i'r cyn-berchnogion wylltio trigolion lleol gan farchnata'r eiddo yn Llandwrog ger Caernarfon fel 'Wynnborn mansion'.

Bu tro pedol gan gwmni MBI o Halifax yn Sir Efrog wedi ymateb chwyrn i'r cynnig.

Roedd penderfyniad David Currie and Co y tro yma wedi cythruddo trigolion yr ardal unwaith eto, gyda'r cwmni'n cyfaddef "nad oedd hynny wedi mynd i lawr yn dda yn lleol".

Ychwanegodd bod pob cyfeiriad "tuag at Newborough Hall wedi cael ei ddileu o'n deunydd marchnata" a'u bod "wastad yn barod i wrando ar deimladau lleol ac nad oed unrhyw fwriad o ddigio neb".