Ateb y Galw: Matt Johnson

Y cyflwynydd Matt Johnson sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan y canwr Rhydian Roberts.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Tua adeg y Nadolig pan o'n i'n flwydd oed. Dwi'n cofio gweld fy ewythr Alan yn gwneud dyn eira yn yr ardd gefn.

Pwy oeddet ti'n ei ffans茂o pan yn iau?

Kylie Minogue oedd fy crush cyntaf.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

O'n i yn y rhaglen 'Your Face Sounds Familiar' ar 大象传媒 1 ac yn gorfod canu c芒n Taylor Swift, wedi gwisgo fel Taylor Swift. Canu fel yna o flaen cynulleidfa o bum miliwn - dwi erioed 'di teimlo mor sexy.

Disgrifiad o'r llun, Matt neu Taylor Swift?

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Dwi ddim yn un sy'n crio'n aml. Ond wnes i grio yn angladd fy nain tair blynedd yn 么l. Fi 'di'r cyflwynydd yn y teulu, felly fi gafodd y job o wneud darlleniad, ac o'n i'n iawn tan y llinell olaf, ac yna wnes i fyrstio allan i grio.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi'n berffeithydd, i'r pwynt lle mae'n gallu bod yn boendod. Dwi ddim yn cysgu rhyw lawer - dwi'n gorfeddwl pethau ac o hyd on the go.

Disgrifiad o'r llun, Hunlun a dynodd Matt ar gopa'r Wyddfa

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Bydd Caerffili yn lle agos at fy nghalon i am byth, dyna yw fy nghartre' a dyna lle mae fy nheulu yn byw.

Ond mae ardal Yr Wyddfa a mynyddoedd Eryri hefyd yn bwysig i fi. Es i fyny'r Wyddfa gyda chriw ar gyfer yr elusen Mind.

Mae mynyddoedd y gogledd yn anhygoel, ac fe wnes i fwynhau noson allan yng Nghaernarfon hefyd - Cofi Roc 'di un o'r llefydd gorau yn y byd!

Ffynhonnell y llun, 大象传媒 staff

Disgrifiad o'r llun, Roedd yr hen Cofi Roc, Caernarfon, yn un o'r 'llefydd gorau yn y byd' yn 么l Matt

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Mi roedd bod yn Twickenham y llynedd pan wnaeth Cymru guro Lloegr yng Ngwpan y Byd yn arbennig. O'n i'n y Royal Box gyda Jamie Baulch, ac mi roedd y Stereophonics yna hefyd. Fe gafon ni gwrw am ddim drwy'r nos ac fe aeth hi'n fl锚r.

Noson arall anhygoel oedd pan es i i gig preifat Prince yn Llundain y llynedd. Wnaeth e ddechrau gyda 'Purple Rain' ac fe wnaeth e chwarae am oriau. Mi roedd 'na bobl fel Noel Gallagher yna yn mynd yn wyllt - noson wych!

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Balch, ffeind a fighter.

Beth yw dy hoff lyfr?

Dwi wrth fy modd gyda llyfrau Roald Dahl, felly a' i am 'BFG'.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Fy j卯ns Levi's du - dyna'r unig drwsus fydda i'n ei wisgo.

Disgrifiad o'r llun, Matt yn cyflwyno y rhaglen Cariad@iaith gyda Nia Parry

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

'Deadpool'. Roedd e'n wych, ond dwi'n meddwl nes i glywed gormod am y ffilm cyn ei weld, a dwi'n difaru hynny.

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Cyd-Gymro, Aneurin Barnard. Roedd e yn 'War and Peace' yn ddiweddar - actor ifanc talentog.

Dy hoff albwm?

'Appetite for Destruction' gan Guns 'N Roses.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydy dy ffefryn a beth fyddai'r dewis?

Prif gwrs, cinio Nadolig.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai o/hi?

Dan Bilzerian, y boi sydd 芒 miliynau o ddilynwyr ar Instagram. Ond fyswn i ddim eisiau bod yn fe am ei arian, achos ma'r boi i weld yn dipyn o idiot. Bysen i'n rhoi ei holl arian e i elusennau ac yn cael gwared ar y gynnau - does dim angen i neb gael gynnau fel 'na.

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Mike Phillips.