Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Rhybudd am oedi cyn ehangu gwaith dur ger Casnewydd
Mae yna rybudd y gallai cost ynni arwain at oedi cyn bod modd ehangu gwaith dur ger Casnewydd.
Mae perchnogion Liberty Steel eisiau symud offer o hen waith dur yng Nghaint i'w safle yng Nghasnewydd, gan greu hyd at 1,000 o swyddi a 3,000 o swyddi annuniongyrchol.
Ond mae'r cwmni, Gupta Family Group, yn rhybuddio y gallai cost ynni ar hyn o bryd, ac ansicrwydd am gyflenwadau, arwain at oedi, a'u gorfodi i symud yr offer dramor.
Prynodd y grwp y safle yn Sheerness yng Nghaint ar 么l iddo gau yn 2012, gan ddweud y byddai'n eu galluogi i gynhyrchu offer dur hir ar gyfer y diwydiant adeiladu.
Dywedodd Cadeirydd y cwmni, Sanjeev Cupta: "Dan amodau'n cytundeb gyda'r gwerthwyr, mae angen i ni symud offer i'r safle newydd erbyn mis Mehefin."
"Ei ddefnyddio i ehangu'r gwaith yng Nghasnewydd yw ein dewis cynta, ond os na ddaw eglurder am gostau ynni a chyflenwadau erbyn hynny, bydd yn rhaid i ni ystyried symud yr offer allan o Brydain."
"Mae India ac Unol Daleithiau America yn opsiynau. Mae'r ddau yn cynnig cyfleoedd marchnadol da, cefnogaeth bositif gan lywodraethau a sicrwydd ynni."
Ailddechreuodd Liberty y gwaith yng Nghasnewydd y llynedd gan achub 150 o swyddi.