Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Llun y llyfr: 10 o'r cloriau gorau
Mae angen i gloriau llyfrau gyflawni sawl pwrpas. Gwerthu llyfr, denu darllenydd, cyfleu naws a bod yn gelfyddydol ddeniadol. Byddai rhai'n ei alw'n gelfyddyd ynddo'i hun, ond pa gloriau llyfrau Cymraeg sydd wedi ennill eu plwyf fel clasuron?
Ar Ddiwrnod y Llyfr mae Cymru Fyw wedi dethol deg clawr trawiadol neu eiconig o'r degawdau diwethaf.
Clawr eiconig i blant y 1980au gan yr artist Jac Jones. 漏 Gwasg Dwyfor
Naws ramantaidd a chynnes sydd i'r clawr cyfoes hwn. 漏 Y Lolfa
Minimol a chosmig yw'r clawr i'r wyddonias glasurol hon. 漏 Gwasg Gomer
Celf Iwan Bala'n tynnu sylw at 'Cyw Haul'. 漏 Y Lolfa
Sawl plentyn sydd ag atgofion melys o lygoden werdd Elwyn Ioan? 漏 Y Lolfa
Cwrw a digrifwch yng nghlasur y Dyn Dwad. 漏 Gwasg Carreg Gwalch
Seicedelia oedd y ffasiwn yn '72. 漏 Gwasg Gomer
Mae clawr 'Y Dydd Olaf' yn sicr yn tynnu sylw.
Llinellau eglur a phalet syml sy'n gwneud y clawr hwn mor drawiadol. 漏 Y Lolfa
Pwy all anghofio gwaith celf Rowena Wyn Jones, dylunydd gwreiddiol llyfrau Sali Mali? 漏 Gwasg Gomer
Beth yw'r clawr sy'n aros yn eich cof chi? Gallwch gysylltu 芒 ni ar cymrufyw@bbc.co.uk neu ar Trydar neu ar ein tudalen .
Gallwch bori drwy filoedd o gloriau llyfrau Cymraeg ar .