Disgyblion ysgol yn holi Tim Peake yn y gofod

Mae disgyblion ysgol uwchradd ym Mhowys wedi bod yn holi'r gofodwr Tim Peake, trwy gyswllt byw 芒'r Orsaf Ofod Ryngwladol ddydd Sadwrn.

Fe gafodd disgyblion o Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt wyth munud i holi Tim Peake - a ddaeth i fod y Prydeiniwr cyntaf i gerdded yn y gofod ar 15 Ionawr eleni.

Roeddynt yn defnyddio offer radio "ham" amatur i gyfathrebu gyda ISS, wrth iddo deithio 215 milltir (346km) uwchlaw Cymru.

Dywedodd Pennaeth gwyddoniaeth yr ysgol, Dr Phil Perkins cyn y digwyddiad: "Maen nhw'n nerfus ond wedi cyffroi".

Roedd wyth o ddisgyblion yr ysgol yn cael cyfle i ofyn un cwestiwn, gyda dau arall o Ysgol Uwchradd Gwernyfed ger Aberhonddu hefyd yn cymryd rhan.

Fe ofynodd Gwen Davies, sy'n brif ferch, ac ym Mlwyddyn 13 yn Ysgol Llanfair ym Muallt, wrth yr Uwch Gapten Peake - a wyliodd g锚m rygbi Chwe Gwlad Lloegr yn erbyn Yr Alban o'r gofod - a oedd y signal ar gyfer y darllediad o werth?

Dywedodd Dr Perkins: "Maen nhw ychydig yn nerfus - mae'n beth mawr - ond maen nhw hefyd yn gwerthfawrogi ei fod yn amlwg yn rhywbeth i'w roi ar y CV."

Roedd dros 200 o bobl yn yr ysgol ar gyfer y digwyddiad.

Ddydd Mawrth, anfonodd yr Uwch Gapten Peake, neges Ddydd G诺yl Dewi o'r gofod.