TVR i greu 150 o swyddi ceir cyflym yng Nglyn Ebwy

Ffynhonnell y llun, tvr

Disgrifiad o'r llun, Delwedd gyfrifiadurol o sut allai'r TVR edrych - bydd y cynllun terfynol yn cael ei ddatgelu'n ddiweddarach yn y flwyddyn

Bydd cwmni ceir cyflym TVR yn sefydlu ffatri newydd yn y de gan greu 150 o swyddi.

Fe fydd y ffatri wedi ei lleoli yn ardal fenter yng Nglyn Ebwy, sydd yn gobeithio bod yn gartre' i'r cynllun Cylchffordd Cymru, prosiect gwerth 拢325 miliwn.

Roedd TVR wedi edrych ar dri safle ar draws y DU cyn dewis Glyn Ebwy ar 么l cael addewid o gymorth gan Lywodraeth Cymru.

Wrth gyhoeddi'r newyddion ddydd Mawrth dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, fod hwn yn "fuddsoddiad proffil uchel gwych i Gymru" ac yn "hwb sylweddol i'n sector modurol."

"Rwyf wrth fy modd y bydd y genhedlaeth nesaf o geir TVR yn dwyn y label 'Gwnaed yng Nghymru' a hynny gyda balchder.

"Daw'r newyddion hwn heddiw chwap wedi'r cyhoeddiad gan Aston Martin, ac mae'n anfon neges glir a chryf mai Cymru yw'r lleoliad a ffefrir ar gyfer gweithgynhyrchu uwch.

"Hefyd mae'n dangos bod ein dull o weithredu er budd busnesau yn sicrhau canlyniadau, yn denu buddsoddiad sylweddol, ac yn creu swyddi o safon, yn ogystal 芒 bod yn hwb anferth arall i Gymru, i'n sector modurol, ac i'n gweithlu medrus."

Disgrifiad o'r llun, Carwyn Jones yn arwyddo'r cytundeb gyda chadeirydd TVR, Les Edgar

Mae disgwyl i'r perchnogion newydd, a brynodd y cwmni Prydeinig dair blynedd yn 么l, ddechrau cynhyrchu ar y safle'r flwyddyn nesa'.

Mae gan y cwmni gynllun 10-mlynedd, gan gynnwys adeiladu pedwar model newydd, a'r nod yw cynhyrchu rhai cannoedd o geir y flwyddyn.

TVR yw'r ail wneuthurwr ceir moethus eiconig i wneud buddsoddiad sylweddol yng Nghymru o fewn pedair wythnos.

Fis diwetha' cyhoeddodd cwmni Aston Martin eu bod am sefydlu ail ganolfan , Bro Morgannwg, gan greu 750 o swyddi.

'Cyfnod cyffrous'

Dywedodd Les Edgar, Cadeirydd TVR: "Mae hwn yn gyfle gwych i TVR ac i Lywodraeth Cymru.

"Mae de Cymru yn datblygu i fod yn ganolfan bwysig ar gyfer datblygiadau a thechnoleg ym maes moduron a chwaraeon moduron, ac rwyf uwchben fy nigon bod TVR yn buddsoddi yma.

"Mae gennym brosiect ceir cyflym sy'n destun cyffro ac sydd wedi cael cymeradwyaeth yn fyd-eang, ac rydym yn falch dros ben bod Llywodraeth Cymru yn dymuno bod yn rhan o gyfnod newydd a chyffrous i TVR.

"Bydd y ffatri yng Nghymru yn brysur yn cyflawni archebion sydd eisoes wedi'u trefnu hyd at ddiwedd 2018."

Yn ddiweddarach ym Mae Caerdydd, fe fydd Mr Jones a Mr Edgar yn trafod y datblygiad mewn anerchiad i arweinwyr busnes o Gymru yngl欧n 芒 chryfder yr economi.

Mae dros 350 o flaendaliadau wedi cael eu rhoi eisoes ar gyfer car cyflym y prosiect newydd gan TVR, a gyhoeddwyd ddechrau 2015.

Bydd gan y car hwn siasi arloesol a gr毛wyd gan Gordon Murray, y dyluniwr Fformiwla Un, a bydd yn cael ei weithgynhyrchu trwy ddefnyddio ei broses gydosod chwyldroadol iStream.