Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cynnal digwyddiadau fel rhan o gynllun Cer i Greu y 大象传媒
Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal dros dri diwrnod y penwythnos i ddathlu celfyddydau, diwylliant a chreadigrwydd yng Nghymru fel rhan o gynllun Cer i Greu y 大象传媒.
Daw hyn yn dilyn cyhoeddi arolwg gan Gyngor Celfyddydau Cymru sy'n dangos cynnydd yn nifer y bobl sy'n cymryd rhan yn y celfyddydau.
Dywedodd 41.2% o'r bobl a holwyd yn 2015 eu bod yn gwneud hynny unwaith neu'r fwy'r flwyddyn.
Dyma'r gyfran uchaf ers 2009 ac mae'n gynnydd o 1.1% ers 2014.
Dangosodd yr arolwg hefyd bod bron i naw mewn 10 o blant a phobl ifanc wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau'r celfyddydau unwaith neu'n fwy yn 2015 (88.5%).
Mae'r ffigwr hwn yr uchaf ers dechrau casglu'r data yn 2007.
Cynllun
Mae'r cynllun yn flwyddyn gyfan o ddathlu diwylliant gwledydd Prydain, a bydd nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yng Nghymru y penwythnos yma i dynnu sylw at greadigrwydd ar draws y wlad.
Bydd mudiadau, grwpiau celfyddydol, diwylliannol a gwirfoddol o bob cwr o Gymru'n cynnal gweithgareddau ac mae modd i bawb gymryd rhan, boed hynny drwy ganu mewn c么r, creu cerddoriaeth neu roi cynnig ar gelf a chrefft.
Mae'r cynllun yn cael ei gynnal ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, a bydd y 大象传媒 yn arddangos creadigrwydd y genedl ar deledu, radio ac ar-lein.
Galeri
Mae un o'r digwyddiadau mwyaf y penwythnos yn cael ei gynnal yn Galeri, Caernarfon ddydd Gwener.
Bydd gweithgareddau yno'n cynnwys gweithdai cyflwyno gydag Elin Fflur, sesiynau technoleg gyda Lolfa Arloesi 大象传媒 Cymru, gweithdy cerdd gydag aelodau o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y 大象传媒, gweithdai drama gyda chymeriadau Rownd a Rownd, a gweithdai celf a chrefft.
Mae cyfle hefyd i geisio cyrraedd copa wal ddringo enwog Glan-llyn gyda'r Urdd, a pherfformiadau gan artistiaid Gorwelion - Fleur de Llys a Cestyll.
Bydd rhaglenni Radio Cymru - Bore Cothi a Tudur Owen - yn cael eu darlledu'n fyw rhwng 10:00-12:00 a 14:00-17:00, gydag Wynne Evans yn darlledu ei sioe ar Radio Wales rhwng 11:00-13:00.
Mae Wynne hefyd yn dangos ei sgiliau creadigol mewn cyfres o heriau Cer i Greu, ac mae wedi croesawu'r fenter.
"Mae'r celfyddydau'n rhywbeth sy'n agos iawn at fy nghalon," meddai.
"Rwyf wrth fy modd yn gallu chwarae fy rhan a dangos Cymru fel rhywle lle gall pawb gymryd rhan a mwynhau bod yn greadigol.
"Beth am roi cynnig arni? O farddoniaeth neu baentio i ddawnsio gwerin neu wau, fe fyddwn i wrth fy modd yn gweld pawb yng Nghymru yn rhoi cynnig ar rywbeth newydd neu'n ailgydio mewn rhywbeth creadigol yr oedden nhw'n mwynhau ei wneud yn y gorffennol."
Bloedd Bassey
Mae'r artist Marc Rees hefyd wedi dadorchuddio cerflun newydd o'r enw Bloedd Bassey ar falconi gwydr yn waliau Castell Caernarfon fel rhan o'r fenter.
Mae'r cerflun aur, 20 troedfedd o uchder yn ymdebygu'r Fonesig Shirley Bassey mewn ystum rhyfelgar tebyg i Buddug, y Frenhines a'r rhyfelwraig Geltaidd.
"Bwriad y cerflun yw sbarduno pobl i fod yn greadigol," meddai Marc.
"Mae creadigrwydd a diwylliant yn sicrhau bod lleoedd, nid yn unig yn gweithredu, ond yn ffynnu.
"Celf yw calon ac enaid unrhyw gymuned, felly mae'n bryd sylweddoli a chydnabod hyn, gan ddod yn rhagweithiol ac yn greadigol."
Mae mwy o wybodaeth am y digwyddiadau sy'n cael eu cynnal ym mhob ardal rhwng 1-3 Ebrill ar gael ar wefan Cer i Greu, ac mae'r 大象传媒 yn annog y rheiny sy'n cymryd rhan i ddefnyddio #bbccerigreu ar Twitter.