Microsglodion c诺n: Cyfraith yn dod i rym

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Mae cyfraith newydd yn dod i rym ddydd Mercher sy'n ei gwneud hi'n orfodol i berchnogion sicrhau fod meicrosglodion wedi eu gosod ar eu c诺n unwaith eu bod yn 8 wythnos oed.

Cyfrifoldeb perchennog yw gwneud hynny ac fe allen nhw gael dirwy o 拢500 os na fyddan nhw'n cadw at y cyfraith.

Bydd manylion y perchennog yn cael eu cofrestru ar gronfa ddata.

Y nod yw annog perchnogion a bridwyr i fod yn fwy cyfrifol, a'i gwneud hi'n haws i reoli c诺n niwsans a pheryglus.

Hefyd, mae'n fwy tebygol i berchennog ddod o hyd i gi sydd wedi mynd ar goll, wedi'i ddwyn neu'i anafu.

'Proses syml'

Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, yr Athro Christianne Glossop:

"Mae'n broses syml lle defnyddir nodwydd i fewnblannu microsglodyn bach (tua maint gronyn reis) o dan groen yr anifail. Mae drosodd yn gyflym ac mae c诺n yn ei dderbyn yn weddol ddidrafferth.

"Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n berchen ar gi eisoes wedi rhoi microsglodyn arno. Ond mae'n rhaid iddyn nhw sicrhau bod eu manylion cyswllt diweddaraf ar y gronfa ddata gyfatebol i gael y siawns gorau o gael hyd i'w ci os yw'n mynd ar goll neu'n cael ei ddwyn."

Bydd yn dal yn ofynnol o dan y gyfraith i gi nad yw'n gi gwaith wisgo coler ag arno dag sy'n nodi enw a manylion cyswllt y perchennog pan fydd mewn lle cyhoeddus.