Cofio cartre'r theatr Gymraeg

Ar nos Sadwrn 30 Ebrill bydd noson arbennig yng nghanolfan Pontio ym Mangor i ddathlu pwysigrwydd Theatr Gwynedd. Fe gaeodd cartref y ddrama Gymraeg ei drysau yn 2008 cyn iddi gael ei dymchwel er mwyn codi'r ganolfan gelfyddydau newydd.

Roedd Dyfan Roberts ymhlith yr actorion cyntaf i droedio ar lwyfan Theatr Gwynedd ym mis Rhagfyr 1974. Bu'n hel atgofion am yr adeilad gyda Cymru Fyw:

Creu traddodiad newydd

"Y cynhyrchiad proffesiynol cynta' yn Theatr Gwynedd oedd pantomeim 'Pwyll Gwyllt' a fi oedd y prif gymeriad sef 'Gwenyn', meddai Dyfan Roberts.

"Roedd traddodiad y pantomeim yn gryf iawn yn y cyfnod hynny, ac oedd 'na griw mawr ohonan ni - fi, Valmai Jones, Iestyn Garlick oedd y tywysog a Heather Jones oedd y dywysoges. Roedd y pantomeim yn eitha spectacular am y cyfnod a dweud y gwir."

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Disgrifiad o'r llun, Dyfan Roberts, Iestyn Garlick a Heather Jones yn 'Pwyll Gwyllt' 1974. (Ffotograff Geoff Charles - Hawlfaint Llyfrgell Genedlaethol Cymru.)

Dyma oedd perfformiad cyntaf Dyfan Roberts ar lwyfan y theatr, ond bu'n aelod o Gwmni Theatr Cymru am bedair blynedd cyn hynny, mewn cyfnod o newid mawr ym myd y ddrama yng Nghymru.

"Roedd Cwmni Theatr Cymru yn cael ei arwain gan Wilbert Lloyd Roberts, a fo oedd un o'r prif symbylwyr i gael Theatr ym Mangor. Fe ymunais i yn 1970 ac fe fuon ni am bedair blynedd ar y l么n yn creu perfformiadau mewn neuaddau pentre a neuaddau ysgol ac yn dyheu am gael cartre' proffesiynol i arddangos gwaith y cwmni.

"Erbyn canol y 1970au oedd' na nifer o theatrau wedi eu hadeiladu yng Nghymru, llawer ohonyn nhw ynghlwm efo'r prifysgolion. Roedd Theatr y Werin yn Aberystwyth, a Theatr y Sherman yng Nghaerdydd. Theatr Clwyd a Theatr Harlech. Traddodiad y neuadd bentre oedd y traddodiad theatr cyn hynny, cyn i Wilbert Lloyd Roberts ddod ymlaen a chreu cwmni drama proffesiynol Cymraeg."

Ffynhonnell y llun, The Theatres Trust

Disgrifiad o'r llun, Theatr Gwynedd

"O'n i'n byw ym Mangor, ac yn gweld y Theatr yn cael ei adeiladu. O'n i'n breuddwydio am y dydd pan fyddai'n agor a meddwl "falle fanna fydda i rhyw ddiwrnod" ac mi agorodd hi yn Rhagfyr 1974."

Yn ystod y 37 mlynedd y bu'r Theatr yn agored, roedd yn gyrchfan i bobl o bob rhan o'r gogledd orllewin, o ardal Pwllheli, Sir F么n a Sir Feirionydd ac roedd tripiau ysgolion Sul yr ardal i weld y pantomeim Nadolig blynyddol yn llenwi'r lle yn y dyddiau cynnar.

"Teimlad o golled"

"Roedden nhw'n ddyddiau cyffrous iawn, ac nid jyst i'r gynulleidfa Gymraeg. Roedd cynulleidfa di-Gymraeg o Fangor yn dod yno hefyd, plant o ysgolion dawnsio lleol, pantomeimiau gan y WI a phethe felly. Roeddach chi'n teimlo eich bod chi'n mynd adra pan oeddach chi'n mynd i Theatr Gwynedd, roedd ganddi gysylltiad cl貌s gyda'r gymuned ac yn croesawu pawb yno, gan gynnwys myfyrwyr.

"Redd 'na deimlad o golled ofnadwy yn yr ardal pan oedd y Theatr yn cau, dan ni'n gobeithio y bydd y traddodiad yma [y cysylltiad gyda'r gymuned] yn atgyfodi yn y lle newydd. Mae adeilad Pontio yn dipyn crandiach na Theatr Gwynedd!"

Disgrifiad o'r llun, Fe addasodd Dyfan Roberts lyfr John Elwyn Jones 'Pum Cynnig i Gymro' a pherfformio yn y ddrama gyda Meilir Rhys Williams yn 2015.

Gwaddol

Mi fydd Dyfan Roberts ymhlith yr artistiaid sy'n cymryd rhan yng nghyngerdd 'Gwaddol' yng nghanolfan Pontio nos Sadwrn, gan ddarllen cerdd a gyfansoddodd yn coff脿u arwyddoc谩d Theatr Gwynedd, gan hel atgofion am yr adeilad lle bu'n perfformio degau o gynyrchiadau dros y degawdau. Mae ffilm fer o atgofion pobl oedd wedi ymwneud 芒 Theatr Gwynedd dros y blynyddoedd i'w gweld mewn arddangosfa yng nghyntedd Pontio.

Y darlledwr Hywel Gwynfryn fydd yn arwain y noson gyda chyfraniadau gan John Pierce Jones, Cefin Roberts, Linda Brown, John Ogwen, Maureen Rhys ac artistiaid eraill.