UKIP: Ni fyddai Gill wedi dewis ymgeiswyr

Mae arweinydd UKIP yng Nghymru, Nathan Gill wedi cyfaddef na fyddai byth wedi dewis dau o ymgeiswyr amlwg y blaid i sefyll ar gyfer etholiadau'r cynulliad.

Mae'r ddau cyn-AS Ceidwadol, Mark Reckless a Neil Hamilton ymhlith ymgeiswyr ar restrau rhanbarthol UKIP.

Profodd eu dewis i fod yn fater dadleuol ymysg aelodau UKIP yng Nghymru, wedi cyhuddiadau eu bod wedi'u gosod ar y rhestrau gan y blaid yn ganolog.

Yn ystod y rhaglen - Holi'r arweinwyr, ar 大象传媒 One Wales nos Fawrth, fe ofynnwyd cwestiwn wrth arweinydd y blaid yng Nghymru, Nathan Gill ynghylch a oedd y ddau ddyn wedi cael eu gorfodi ar Gymru.

Mewn ymateb, dywedodd: "Rwy'n arweinydd UKIP yng Nghymru, ond nid oes gennyf lawer o rym o ran dewis yr ymgeiswyr.

"Mae dethol ymgeiswyr yn mynd i bleidlais gan yr aelodaeth. Mae'r aelodau wedi dewis pwy oeddent am weld yn sefyll ym mhob rhanbarth a chymeradwyodd y pwyllgor gweithredol cenedlaethol hynny.

"Doedd gen i ddim llais yn hynny o gwbl.

"Mae'r aelodau wedi dewis yr ymgeiswyr hyn, ac felly rwyf yn eu cefnogi, y gwir amdani yw mai democratiaeth ydi hyn, ac felly yr wyf yn cefnogi'r ddemocratiaeth honno."

Pan ofynnwyd iddo, a oeddent yn ased i'r blaid, dywedodd: "Wrth gwrs, mae ganddynt flynyddoedd o brofiad, fe wnaeth Mark Reckless rhywbeth dewr iawn pan ddaeth drosodd i UKIP fel AS. Rydym i gyd yn cydnabod ei fod yn ddyn deallus a chlyfar iawn. Wrth gwrs eu bod yn asedau. "

Mewn ymateb i gwestiwn am arweiniad ehangach y blaid yng Nghymru, dywedodd: "Mae llawer o bethau mewn gwleidyddiaeth sy'n gwneud i mi deimlo'n rhwystredig, ac i fod yn berffaith onest, mae gwleidyddiaeth fewnol UKIP."

Gofynnwyd i Mr Gill, os byddai'n cerdded i ffwrdd o fod yn arweinydd y blaid, dywedodd: "Rwyf wedi cael fy nyfynnu sawl gwaith yn dweud ei fod yn debyg i fugeilio criw o gathod. Rwy'n ofni fod hynny oherwydd yr holl bersonoliaethau gwahanol."

Dadansoddiad ein Gohebydd Gwleidyddol, Aled ap Dafydd

Mae Nathan Gill wedi gorfod dygymod a storm o benawdau negyddol dros yr wythnosau diwethaf.

Mae ei gyfaddefiad na fyddai wedi dewis dau gyn aelod seneddol ceidwadol fel ymgeiswyr o flaen aelodau'r blaid yng Nghymru yn codi rhagor o gwestiynau ynglyn ag undod y blaid.

Dau gwestiwn sydd yn codi felly.

Yn gyntaf sut berthynas fyddai rhwng unigolion pe bai UKIP yn cael nifer sylweddol o aelodau cynulliad?

Ac yn ail, o gofio nad oes ganddo lawer o awdurdod faint o ymyrraeth gan y blaid yn ganolog fydd o'n fodlon ei dderbyn wrth i UKIP frwydro i chwalu'r hyn mae nhw yn ei gyfeirio ato fel "y consensws clud"ym Mae Caerdydd?