Ysbyty Eglwys Newydd yn cau ei drysau i gleifion

Bydd Ysbyty Eglwys Newydd yn cau ei drysau am y tro olaf i gleifion, ddydd Gwener, a hynny ar 么l 108 o flynyddoedd.

Ar un adeg roedd neuadd ddawnsio, eglwys, tai haf, a llwyfannau band ar y safle.

Roedd rhai oedd yn gweithio yno hefyd yn rhan o gerddorfa yn yr ysbyty, a fyddai yn perfformio i'r cleifion.

Yn ystod y rhyfel roedd y safle'n cael ei ddefnyddio i drin milwyr oedd wedi eu hanafu.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae 130 o gleifion wedi eu symud o'r ysbyty i uned iechyd meddwl newydd Hafan Y Coed yn Ysbyty Llandochau.

Disgrifiad o'r llun, Mae yna ardaloedd "tawel", lolfeydd, campfa, maes chwarae awyr agored a sinema fach yn yr uned newydd

Trin yn y gymuned

Mae Ysbyty Llandochau wedi cael ei foderneiddio ar gost o 拢88m, gyda'r uned yn rhan o'r gwaith yma.

Cleifion gyda'r problemau mwyaf difrifol fydd yn cael eu trin yn Hafan Y Coed ac mae 134 o welyau yno.

Pan agorodd Ysbyty Eglwys Newydd roedd 2,000 o welyau yno, ond mae'r gostyngiad yn adlewyrchu'r newid pwyslais sydd wedi digwydd, gyda mwy o bobl yn cael eu trin yn y gymuned.

Mae ysbytai Cymru'n trin tua 10,000 o achosion o broblemau iechyd meddwl pob blwyddyn, gyda bron i chwarter y rheiny'n aros yn yr ysbyty am lai na mis.