Arholiadau yn poeni mwy o ddisgyblion ysgol, yn 么l elusen

Mae mwy o ddisgyblion ysgol o dan straen am eu bod yn poeni am eu harholiadau, yn 么l un elusen.

Mae ChildLine yn dweud bod yna gynnydd wedi bod yn y nifer sydd yn cael help cwnsela yngl欧n 芒'r mater.

Llynedd cafodd dros 3,000 o sesiynau cwnsela eu rhoi i ddisgyblion, sef cynnydd o 9% o'i gymharu 芒 2,835 yn 2014/15.

Fe ddigwyddodd bron i chwarter o'r sesiynau cwnsela yn ystod mis Mai - cyfnod cyn yr arholiadau.

Canlyniadau

Roedd canlyniadau'r arholiadau yn rhywbeth arall oedd yn poeni'r disgyblion gyda chynnydd hefyd yn y nifer o sesiynau yn ymwneud 芒'r mater.

Yn 么l Childline rhai o'r rhesymau pam bod y bobl ifanc yn cysylltu gyda nhw yw'r ofn na fyddan nhw'n gwneud yn dda yn eu harholiadau, ddim eisiau siomi eu rhieni, a'u bod yn teimlo pwysau i gael graddau da.

Ac mae'r straen yn gallu cael effaith negyddol gan olygu nad ydyn nhw'n gallu cysgu neu eu bod yn teimlo yn isel.

Mae'r elusen yn dweud bod rhai disgyblion yn teimlo eu bod eisiau rhoi diwedd ar eu bywyd neu hunanniweidio.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Disgrifiad o'r llun, Mae'r ffigyrau yn dangos bod disgyblion hefyd yn poeni am ganlyniadau'r arholiadau

Mae ffigyrau diweddar Childline hefyd yn dangos bod mwy o bobl ifanc wedi bod yn ymweld 芒 thudalen ei gwefan sydd yn cynnig cyngor yngl欧n 芒 sut i ddelio gyda straen arholiadau.

Roedd 32,839 wedi bod ar y wefan y llynedd, ond 19,136 oedd y ffigwr yn 2014/15.

Dywedodd pennaeth NSPCC Cymru, Des Mannion: "Mae'r cyfnod arholiadau yn medru bod yn gyfnod o straen mawr ac yn gyfnod o boeni. Mae'r ffigyrau yma yn dangos bod mwy o bobl ifanc yn teimlo pwysau i wneud yn dda."

Mae fideo newydd wedi ei gyhoeddi ddydd Mercher sydd yn cynnig cyngor i blant a phobl ifanc yngl欧n 芒'r mater ar wefan YouTube Childline.

Y cyngor mae Childline yn rhoi i berson sydd yn teimlo o dan bwysau yw gwneud rhywfaint o ymarfer corff, i gymryd seibiant cyson wrth adolygu ac i gael digon o gwsg.