Lansio llwybrau beicio Syr David Brailsford

Ffynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd

Disgrifiad o'r llun, Ffordd Brailsford

Mae dau lwybr beicio trawiadol sy'n rhoi teyrnged i wreiddiau lleol yr hyfforddwr beicio rhyngwladol Sir David Brailsford wedi cael eu lansio yn swyddogol yng Nghaernarfon.

Mae'r ddau lwybr seiclo 'Ffordd Brailsford' - llwybr 50 milltir a llwybr 75 milltir o hyd - yn cael eu lansio fel rhan o ddigwyddiad beicio Etape Eryri sy'n cychwyn o Gaernarfon.

Mae llwybr Ffordd Brailsford yn cynnwys dringfeydd anhygoel a darnau i lawr allt fydd yn cynhyrfu'r beicwyr gorau meddai'r trefnwyr, ac yn cynnig her i feicwyr profiadol yn ogystal a rhoi cyfle i'r llai profiadol feicio ar hyd llwybrau trawiadol.

Wrth drafod y llwybrau, dywedodd Syr David Brailsford: "Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i deithio'r byd yn reidio beic, ond i mi does ond un lle sy'n wirioneddol sefyll allan: adref. Does dim beicio gwell, neu ran fwyaf trawiadol o'r byd nag Eryri.

"Mae'r lle yn chwa o awyr iach yn llythrennol. Dwi byth yn gadael heb deimlo yn well na phan gyrhaeddais. Wrth dyfu i fyny, dyma'r llwybrau yr oeddwn yn hoff o`i beicio; y ffordd, y dringo, y cyfuniad hyfryd rhwng m么r a mynydd. Dyma oedd fy ysbrydoliaeth."

Wedi ei fagu yn Neiniolen yng Ngwynedd, mae Syr David Brailsford o'r farn mai tirwedd naturiol Eryri oedd ei gymhelliant i fod allan ar ei feic.

Erbyn hyn, er ei fod yn un o ffigyrau fwyaf blaenllaw y byd seiclo ac wedi bod yn sail i nifer o fedalau aur i Olympwyr Prydeinig yn ogystal ac arwain Syr Bradley Wiggings a Chris Froome at lwyddiant yn y Tour de France, mae o wrth ei fodd yn dod adref i fwynhau lonydd Eryri.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd

Disgrifiad o'r llun, David Brailsford (canol) yn beicio ar hyd Drws y Coed

'Golygfeydd hudolus'

Ychwanegodd: "Defnyddiwyd rhannau o'r llwybrau yma yn ystod cymal o'r Tour of Britain yn 2014 a 2015. Mae'r dringo yn anferth; dringo o lefel y m么r i'r pwynt uchaf o 360m ym Mhen y Pass. Mae'r golygfeydd yn hudolus, ac amrywiaeth y beicio yn wirioneddol unigryw. Mae'r ffyrdd yn llyfn: perffaith ar gyfer beicio, a'r llwybrau 50-milltir a 75-milltir ill dau wedi eu harwyddo'n dda.

"Yn ogystal 芒 beicio gwych, un peth yr ydw i wir yn ei fwynhau pan fyddai allan ar y beic yn Eryri ydi cael hoe fach mewn caffi lleol, ac eistedd yno am ychydig yn cael paned o goffi a sgwrs gyda'r bobl leol."

Mae llwybrau beicio Ffordd Brailsford wedi eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Bwrdeistrefol Conwy.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Williams-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd a chyfrifoldeb dros Economi:

"Rydym yn falch o gefnogi llwybrau beicio newydd 'Ffordd Brailsford'. Rydym yn hynod falch o'r hyn mae Syr David Brailsford wedi ei gyflawni yn ei yrfa beicio ac mae'r llwybrau newydd yn ffordd o ddangos ein gwerthfawrogiad.

"Mae beicio yn hynod o boblogaidd led-led Prydain a thu hwnt ac mae Syr David Brailsford a fagwyd yn Neiniolen, yn un o hyfforddwyr amlycaf y byd seiclo. Ein nod ydi hyrwyddo'r llwybrau beicio anhygoel sydd gennym yma yn Eryri a gobeithio y bydd beicwyr o bell ac agos yn dod yma i roi sialens i'w hunain a mwynhau tirwedd bendigedig.

"Wrth gyd-weithio gyda phartneriaid ar draws y sector gyhoeddus a phreifat, rydym eisiau adeiladu ar ein henw da fel lleoliad twristiaeth rhyngwladol o bwys."

Ffynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd

Disgrifiad o'r llun, Ar hyd y Foryd ger Caernarfon