Rocio yn Sir Fynwy

Queen, Stone Roses, Coldplay, Oasis, Manics, Catatonia... mae ardal yr Eisteddfod Genedlaethol wedi denu rhai o fandiau roc enwoca'r byd dros y blynyddoedd. Doedden nhw ddim yn dod i Sir Fynwy i berfformio o flaen miloedd, ond yn hytrach yn encilio i stiwdio wledig Rockfield i recordio rhai o'u halbyms mwyaf eiconig.

Mae Owen Powell, gynt o Catatonia, yn hel atgofion am ddyddiau'r grŵp yn recordio yn y stiwdio sydd hanner awr o faes y Brifwyl:

Disgrifiad o'r llun, Owen Powell (ar y chwith) gyda'r grŵp Catatonia yn yr 1990au

Abbey Road yn Llundain, Muscle Shoals yn Alabama, Sunset Sound yn Hollywood a Studio One yn Jamaica. Mae lleoliadiau stiwdios recordio enwoca'r byd yn egsotig a dweud y lleiaf. Felly sut y daeth stiwdios Rockfield yn Nhrefynwy i fod yn rhan o'r rhestr yma?

Ers 1965, pan gafodd y stiwdio ei hagor gan y brodyr Charles a Kingsley Ward, mae rhai o artistiaid a bandiau enwoca'r byd wedi dod yma i Gymru i recordio cerddoriaeth sydd wedi cael ei glywed dros y byd i gyd.

Black Sabbath, Coldplay, Oasis, Robert Plant, Manic Street Preachers... mae'r rhestr fel Who's Who o oes aur y diwydiant cerddorol.

Bues i'n ddigon ffodus i recordio albym yno gyda Catatonia a chael ymlacio yn y naws wledig mae Rockfield yn ei greu. Mae treulio deg wythnos mewn un stiwdio yn gallu teimlo fel amser hir iawn, ond mae presenoldeb chef llawn amser yn lleihau'r baich ychydig!

Ffynhonnell y llun, Rockfield Studio

Atyniad hynod

Mae gan Rockfield rhyw atyniad hynod i fandiau. Tra roeddwn ni yno, fe ymwelodd Mani o'r Stone Roses a Bobby Gillespie o Primal Scream â'r stiwdio. Roedd gweld y ddau yn cyrraedd mewn hen Ford Fiesta yn annisgwyl a dweud y lleiaf. Roedd Mani fwy neu lai yn aelod o'r teulu yn y stiwdio. Bu'r Stone Roses wrthi'n recordio 'The Second Coming' yno am bron i bedair blynedd! Digon o amser i Mani briodi merch o Drefynwy ac ymuno â'r tîm pêl-droed lleol.

Er gwaetha'r sêr roc yn crwydro mewn a ma's o'r stiwdio, y wynebau mwyaf cyfarwydd yn Rockfield yw'r ceffylau. Mae'r stiwdio wedi ei lleoli ar fferm y teulu Ward, ac er bod Rolls Royce y perchennog Kingsley i'w weld o gwmpas y lle, mae teimlad amaethyddol yn perthyn i'r lle o hyd. Crwydrwch allan o'r stiwdio ac yno mae Amanda, merch Kingsley yn cadw ceffylau yn yr adeiladau drws nesa' i'r lle recordiodd Queen y clasur Bohemian Rhapsody!

Ffynhonnell y llun, Rockfield Studio

Disgrifiad o'r llun, Aelodau Catatonia yn diolch i Stiwdio Rockfield am y croeso, yn y llyfr gwesteion

Albym tywyll

Mae atgofion cymysg gyda fi am fy amser yn Rockfield. Roedd ein sesiynau recordio ni yn rhai anodd ac roedd yr albym a grewyd yno yn un tywyll. 'Paper Scissors Stone' oedd albym olaf Catatonia ac fe chwalodd y band cyn iddi gael ei rhyddhau. Ar y llaw arall, fe anwyd fy mab cyntaf, Herbie, tra roedden ni'n recordio, ac fe ges i'r cyfle i fynd â fe i Rockfield am gwpwl o ddyddiau difyr iawn.

Cofio dim mae Herbie, ond gan ei fod e nawr yn chwarae'r gitâr fas ac yn rhoi band at ei gilydd, efallai yn ôl i Rockfield yr eith e rhyw ddydd, i gyfrannu at hanes stiwdio recordio enwocaf Cymru.

•