Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cynllun llogi beiciau yng Nghaerdydd erbyn Gwanwyn 2017
Bydd cynllun llogi beiciau newydd yn cael ei roi ar waith ym Mhrifddinas Cymru y gwanwyn nesaf, yn 么l cyngor y ddinas.
Mae Cyngor Sir Caerdydd wedi estyn gwahoddiad i gwmniau dendro i redeg y cynllun gyda'r n么d o sicrhau darparwr i gyflenwi beiciau, safleoedd docio a therfynfeydd yn ogystal 芒 chynnal a gweithredu'r cynllun.
Mae'r cyngor yn dweud fod mwy o bobl yn beicio yn y ddinas nawr ac maen nhw'n gobeithio y bydd y cynllun yn cael ei lansio mewn pryd cyn g锚m derfynol Cynghrair y Pencampwyr ar 3 Mehefin.
Dywedodd Ramesh Patel, yr Aelod Cabinet dros Drafnidiaeth, Cynllunio a Chynaliadwyedd: "Mae llwyddiant cynlluniau tebyg mewn dinasoedd eraill yn y DU yn amlwg a'r gobaith yw y bydd trigolion Caerdydd ag ymwelwyr yn defnyddio a mwynhau'r cynllun pan fydd ar waith."
Ychwanegodd: "Mae'r cynllun newydd yn bwriadu bod yn llawer mwy na'r cynllun peilot cyntaf yn 2011, gyda 500 o feiciau hunanwasanaeth wedi'u lleoli ledled ardal yr awdurdod. Caiff y rhain eu lleoli mewn nifer o safleoedd sy'n hawdd eu cyrraedd gan gynnwys safleoedd llogi mewn canolfannau dalgylch, prifysgolion, a lleoliadau strategol eraill sy'n agos at y cyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus presennol."