Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Rhieni yn Llangennech yn bygwth adolygiad barnwrol
Mae rhieni sy'n gwrthwynebu newid statws ysgol gynradd yn Sir Gaerfyrddin o un ddwyieithog i un cyfrwng Cymraeg yn bygwth gwneud cais am adolygiad barnwrol.
Mae rhai o rieni ardal Llangennech, ger Llanelli, yn gwrthwynebu'r newid, ac mae cwmni cyfreithiol wedi anfon llythyr i'r Cyngor Sir yn bygwth gwneud cais i'r llysoedd am adolygiad barnwrol oni bai bod y sir yn newid eu meddwl.
Bwriad y cyngor yw ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer addysg Cymraeg yn y sir, yn rhannol oherwydd gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn 么l y cyfrifiad diwethaf a hefyd o ran y cynnydd yn y galw am addysg cyfrwng Cymraeg y de'r sir.
Byddai argymhelliad y cyngor yn gweld yr ysgol - yn cynnwys dosbarthiadau meithrin a chynradd - yn uno fel ysgol cyfrwng Cymraeg 3-11 oed.