Gemau Olympaidd Rio: Aur i Hannah Mills yn yr hwylio

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Hannah Mills wedi ennill medal aur yn yr hwylio yn y Gemau Olympaidd, gan olygu bod y Cymry bellach wedi ennill tair medal aur yn Rio.

Dim ond angen gorffen oedd Mills a'i phartner Saskia Clark yn ras olaf y dosbarth 470, wedi iddyn nhw sicrhau'r aur i bob pwrpas ddydd Mawrth. Cafodd y ras ei gohirio ddydd Mercher o achos yr amodau tywydd, ond fe groesodd y ddwy y llinell derfyn ddydd Iau gan sicrhau'r fuddugoliaeth.

Mae Mills, 28 oed o Gaerdydd, a Clark, sy'n 36 o Essex, wedi mynd gam ymhellach na'u medal arian yng Ngemau Llundain yn 2012.

"Does gen i ddim geiriau i ddisgrifio'r peth, meddai Mills. "Alla i ddim credu'r peth."

"Rydyn ni wedi hwylio'n anhygoel. Mae hi wedi bod yn farathon o ddigwyddiad."

Jo Aleh a Polly Powrie o Seland Newydd gafodd y fedal arian, a Helene Defrance a Camille Lecointre o Ffrainc ddaeth yn drydydd gan sicrhau'r fedal efydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Rio nawr yw'r Gemau Olympaidd mwyaf llwyddiannus erioed i'r Cymry.

Hyd yn hyn, maen nhw wedi ennill tair medal aur a chwe medal arian.

Ond mae gobaith y bydd mwy ar y ffordd hefyd, gyda Jade Jones yn cystadlu yn y Taekwondo ddydd Iau gan geisio amddiffyn y fedal aur wnaeth hi ei ennill yng Ngemau Llundain.

Mae dwy Gymraes arall - Non Stanford a Helen Jenkins - ymysg y ffefrynnau ar gyfer y treiathlon ddydd Sadwrn, a bydd Seren Bundy-Davies yn ceisio helpu'r ras gyfnewid 4x400m i gyrraedd y podiwm hefyd.

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Mae Hannah Mills (dde) a Saskia Clark wedi gwella ar eu medal arian o Gemau Llundain yn 2012
Disgrifiad o'r llun, Ffrindiau a theulu Hannah Mills yn dathlu yng Nghaerdydd