Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Mwy nag erioed yn dysgu Cymraeg ym Mhatagonia
Mae'r adroddiad diweddaraf ar Brosiect yr Iaith Gymraeg ym Mhatagonia yn dangos bod y nifer y dysgwyr Cymraeg yn y rhanbarth yn parhau i gynyddu.
Mewn datganiad, dywedodd British Council Cymru fod cyfanswm o 1220 o Batagoniaid yn dysgu Cymraeg yn 2015 o'i gymharu 芒 1174 yn 2014 - y nifer uchaf o ddysgwyr ers dechrau'r prosiect yn 1997 gyda 537 o ddysgwyr.
Mae Adroddiad Monitro Blynyddol Prosiect yr Iaith Gymraeg 2015, sy'n cael ei redeg gan British Council Cymru, hefyd yn nodi bod nifer y gwersi Cymraeg yn y rhanbarth wedi cynyddu i 104, o'i gymharu 芒 90 yn 2014, 83 yn 2013 a 79 yn 2012.
Dywedodd Jenny Scott, cyfarwyddwr British Council Cymru: "Yn ogystal 芒 pharhau i reoli'r Prosiect ar ran Llywodraeth Cymru yn 2015, fe wnaethom hefyd gydlynu Patagonia 150, sef y dathliadau i nodi 150 o flynyddoedd ers i'r ymsefydlwyr cyntaf o Gymru gyrraedd Patagonia.
"Adeiladwyd cysylltiadau newydd rhwng sefydliadau yng Nghymru a Patagonia. Ar 么l blwyddyn lwyddiannus o ddigwyddiadau rydym yn falch fod yr adroddiad yn dangos bod y gwaith o ddiogelu dyfodol yr iaith Gymraeg yn y Wladfa yn gryfach nag erioed."
Dywedodd Clare Vaughan, cydlynydd dysgu sydd wedi'i lleoli ym Mhatagonia: "Cyn i'r flwyddyn ddechrau fe wnaethom drafod y dathliadau i nodi'r ymsefydlwyr cyntaf gyrraedd Patagonia, ond nid oeddem yn disgwyl blwyddyn mor brysur o waith a gweithgareddau.
"Mae wedi bod yn wych cael croesawu gymaint o bobl i'r cymunedau yma ac rwy'n gobeithio y cafodd pawb a fu'n ymweld 芒 ni deimlo'r wefr o gael siarad iaith eu hunain a hynny mor bell o adref.
"Roedd y flwyddyn yn bwysig iawn i adfywiad yr iaith a'r diwylliant yn y Wladfa, ac rydym wir yn gobeithio y cafodd y dathliadau yr un math o effaith ar ein hymwelwyr."
Dywedodd Rhisiart Arwel, monitor academaidd y prosiect: "Mae'r ffaith fod y Prosiect yn parhau i ddenu dysgwyr Cymraeg ar 么l bron i 20 mlynedd yn arwydd glir bod aelodau'r Wladfa yn dal i deimlo cysylltiad cryf 芒'r iaith.
"Yn ogystal 芒'r cynnydd yn nifer y dysgwyr, gwelwyd cannoedd o bobl leol yn cymryd rhan yn nathliadau Patagonia 150 yn 2015.
"Fe wnaethom hefyd ddathlu agoriad adeilad newydd Ysgol Gymraeg y Gaiman ac agoriad ysgol newydd yn Nhrevelin, Ysgol y Cwm."
Bydd blwyddyn nesaf yn nodi 20 mlynedd ers dechrau Prosiect yr Iaith Gymraeg.