Cyngor Sir Benfro'n addo trafod ffioedd parcio Crymych

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Mae'n rhaid talu 40c yr awr i barcio yng Nghrymych ers ddechrau'r flwyddyn

Mae Cyngor Sir Benfro wedi addo ymgynghori ymhellach am ddyfodol maes parcio Crymych.

Daw hyn yn sgil galwadau'n lleol i ddileu'r ffioedd parcio yno.

Bore Llun bu cabinet y cyngor yn ysytyried adroddiad sy'n dweud bod y defnydd o chwe maes parcio yn y sir wedi gostwng ers i'r ffioedd gael eu cyflwyno.

Mae'r safleoedd eraill dan sylw yn Llandudoch, Wdig a Hwlffordd.

Bydd y cyngor sir nawr yn cynnal trafodaethau pellach 芒 Chyngor Cymuned Crymych.

Parcio ar y stryd

Mae adolygiad y cyngor i'r defnydd o'r llefydd parcio ym mesur effaith cyflwyno ffioedd n么l ym mis Chwefror a mis Mawrth.

Daw i'r casgliad bod lleihad cyffredinol yn y chwe maes parcio, gyda gostyngiad "sylweddol" yn achos un safle.

Yn 么l yr adroddiad, mae'r ffioedd wedi arwain at gynnydd mewn parcio ar y stryd, a dywedodd yr RNLI bod hynny wedi cael effaith ar eu gallu i ymateb i alwadau brys ym mhentref Llandudoch.

Mae cabinet y cyngor wedi cytuno i drafod y sefyllfa ymhellach gyda'r RNLI.

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Mae cynnydd wedi bod mewn parcio ar Stryd Fawr Llandudoch

Gobaith Cyngor Sir Benfro oedd codi 拢120,000 o'r ffioedd parcio yn y chwe lleoliad.

Fe ddywedodd y Cynghorydd Huw George bod rhaid "cymryd penderfyniadau anodd" ac nad oedd trethdalwyr y sir "yn deall yn llawn yr heriau mae'r awdurdod yn ei wynebu".

Ychwanegodd bod y ffioedd sy'n cael eu codi yn cymharu'n dda 芒 ffioedd mewn siroedd eraill.

O dan y drefn newydd, 40c yr awr yw pris parcio - neu 拢1.50 am 24 awr.

Newid sydyn

Mae'r adroddiad gafodd ei baratoi ar gyfer y cyngor hefyd yn dweud bod galw mawr ar ddyddiau marchnad, er gwaethaf y gostyngiad cyffredinol mewn defnydd.

Ond mae'r ffigyrau hefyd yn dangos maint y gostyniad yn y defnydd o rai meysydd parcio.

Cafodd 144 o geir eu parcio ym maes parcio Thomas Green, Hwlffordd, ar un dydd Iau ym mis Chwefror cyn i'r ffioedd ddod i rym. Y dydd Iau canlynol, ar 么l i'r taliadau ddechrau, dim ond 66 o geir oedd yno.

Er bod y defnydd wedi cynyddu erbyn mis Mai a mis Mehefin, nid oeddent yn cyrraedd lefelau blaenorol.