Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Diddymu Cymraeg ail iaith 'yn gam pwysig iawn ymlaen'
Mae'r cadarnhad fod Llywodraeth Cymru'n bwriadu cael gwared ar Gymraeg ail iaith wedi ei groesawu gan ymgyrchwyr iaith.
Mewn cyfweliad ar raglen 大象传媒 Cymru Y Post Cyntaf, dywedodd Tony Schiavone, cadeirydd gr诺p addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ei fod yn gam pwysig iawn ymlaen.
"Am y tro cyntaf, rydan ni wedi cael datganiad clir iawn o fwriad, a dim bwriad yn unig, ond teimlad clir iawn bod angen newid radical," meddai.
Roedd yn ymateb i sylwadau Alun Davies, y gweinidog sydd 芒 chyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg, pan ddywedodd fod Llywodraeth Cymru yn anelu i ddiddymu Cymraeg Ail Iaith fel pwnc ymhen pum mlynedd.
Roedd Mr Davies yn siarad ar 么l trafodaeth yn y Cynulliad Cenedlaethol ddydd Mercher, pan fu Plaid Cymru yn dadlau fod addysg yn allweddol wrth i'r llywodraeth geisio sicrhau eu nod o filiwn o siaradwr Cymraeg erbyn 2050.
'Angen cefnogaeth'
Dywedodd Mr Schiavone: "Mae traean o athrawon Cymru yn rhugl yn y Gymraeg a'r mwyafrif helaeth o'r lleill wedi cael gwersi Cymraeg dros y 10 i 12 mlynedd diwethaf.
"Dydyn nhw ddim yn ddi-Gymraeg, maen nhw'n ddi-hyder ac mae angen cefnogaeth a hyfforddiant arnyn nhw i ddefnyddio'r iaith gyda disgyblion.
"Mae angen rhoi'r hyder i'r athrawon a'r ffordd orau o ddysgu iaith yw dysgu iaith i rywun arall.
"Fe all yr ysgolion a disgyblion weld hyn fel her iddyn nhw eu hunain fod yn rhugl o fewn cyfnod penodol o amser.
"Ein nod ni yw sicrhau bod 80% sydd wedi colli allan yn cael y cyfle i ddod yn hyderus yn y Gymraeg. Mae'n bwysig rhoi y gallu i bobl ifanc."