Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Medal y Frenhines am wyddoniaeth i John Meurig Thomas
Bydd Syr John Meurig Thomas yn derbyn Medal Frenhinol y Gwyddorau mewn cinio arbennig ddydd Mercher.
Mae'r fedal - sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Medal y Frenhines - yn cael ei rhoi ar sail argymhellion cyngor y Gymdeithas Frenhinol er mwyn cydnabod cyfraniadau pwysig i'r gwyddorau.
Bydd Syr John yn derbyn y fedal am ei waith arloesol mewn cemeg catalytig.
Ymhlith cyn-enillwyr y fedal mae Charles Darwin a Michael Faraday.
Catalyddion cemegol
Mae Syr John Meurig Thomas, a raddiodd yn wreiddiol o Brifysgol Abertawe, wedi bod yn bennaeth Adran Cemeg Ffisegol Prifysgol Caergrawnt, ac yn Gymrodor Coleg y Brenin, Caergrawnt cyn dod yn Ddirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Ffederal Cymru.
Prif faes llafur Syr John yw catalyddion cemegol sy'n cyflymu adweithiau cemegol, ac mae wedi datblygu catalyddion sy'n defnyddio llai o ynni a ddim yn dirywio yn y broses.
Mae felly wedi arwain y ffordd wrth ddatblygu catalyddion 'gwyrdd' sy'n gwneud prosesau cemegol yn fwy effeithlon a llai llygredig.
Wrth ei longyfarch, dywedodd Steve Wilks o Brifysgol Abertawe: "Syr John Meurig Thomas yw un o gyn-fyfyrwyr mwyaf anrhydeddus ein prifysgol.
"Mae ei waith ymchwil ym maes cemeg ar yr un lefel 芒 gwaith eraill sydd wedi diffinio dulliau modern y gwyddorau, technoleg a mathemateg, gan gynnwys Syr Michael Faraday a fu'n destun llyfr gan Syr John ei hun."