Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Awyrennau rhwng Caerdydd a Llundain i barhau
Bydd awyrennau rhwng Caerdydd a Llundain yn parhau tra bod 'na alw, yn 么l y cwmni sy'n rhedeg y gwasanaeth.
Fe wnaeth Flybe lansio'r gwasanaeth ar 12 Medi, ac roedd yn wreiddiol am bara tan 21 Hydref tra bo Twnnel Hafren ar gau i drydaneiddio'r rheilffordd.
Ond dywedodd y cwmni bod galw da wedi bod am y gwasanaeth, a bod 95% o'r teithwyr gafodd eu holi yn dweud y bydden nhw'n parhau i'w ddefnyddio.
Mae'r awyrennau rhwng Maes Awyr Caerdydd a Maes Awyr Dinas Llundain yn rhedeg tair gwaith y dydd.
Dywedodd prif weithredwr Maes Awyr Caerdydd, Roger Lewis ei fod yn gobeithio bod y galw'n parhau, ac y bydd y llwybr yn cael ei wneud yn un hirdymor.
Yn 么l Vincent Hodder o Flybe: "Mae'r llwybr yma wedi bod yn wych, ac mae'r ymateb wedi bod yn galonogol iawn."
Mae'r daith yn cymryd tuag awr fel arfer, ond mae'n gallu cymryd cyn lleied 芒 35 munud.
Cafodd y cyhoeddiad ei groesawu gan Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns.
"Mae parh芒d yr awyrennau rhwng Caerdydd a Llundain yn newyddion gwych i Gymru a dw i wrth fy modd bod hynny oherwydd galw mawr am y gwasanaeth," meddai Aelod Seneddol Ceidwadol Bro Morgannwg.
"Mae'r teithiau yn hyrwyddo'r ffaith bod Cymru'n agored i fusnes ac fe fydd yn helpu i annog buddsoddiad i mewn, hybu masnachu a gwneud Cymru'n le deiniadol i farchnadoedd newydd."