Gwahardd dyn am gadw eryr aur mewn cegin fudr

Ffynhonnell y llun, RSPCA

Mae dyn wedi ei wahardd rhag cadw anifeiliaid am 10 mlynedd wedi iddo gadw eryr aur mewn cegin fudr.

Roedd Adam Smith o Birmingham, wedi cadw'r aderyn yn y gegin yn Sir Benfro. Cafodd ei ddedfrydu ddydd Llun ar 么l pledio'n euog yn Llys Ynadon Llanelli i droseddu yn groes i Ddeddf Lles Anifeiliaid ar 26 Mai.

Clywodd y llys yn y gwrandawiad blaenorol fod Smith wedi cadw'r eryr mewn cegin fechan mewn fflat yn nhref Penfro, a hynny mewn amgylchedd nad oedd yn lan a diogel i'r aderyn.

Cafodd swyddogion yr RSPCA eu galw ym mis Ionawr 2015 yn dilyn derbyn adroddiadau fod yr aderyn yn cael ei gadw mewn lleoliad amhriodol.

Ffynhonnell y llun, RSPCA

Dywedodd yr Arolygydd Keith Hogben o'r RSPCA: "Roedd hwn yn achos hynod unigryw gan nad ydych yn disgwyl gweld eryr aur mewn cegin. Mae o'n un o'r pethau mwyaf gwallgof i mi ei weld erioed. Doedd dim modd dychmygu'r peth.

"Nid oedd yr amgylchiadau yr oedd yr eryr aur ynddo yn briodol o bell ffordd - roedd bagiau o sbwriel wedi eu gwasgaru ar hyd y llawr ac nid oedd modd i'r aderyn ymestyn ei adenydd i bob cyfeiriad mewn awyrgylch tywyll ag estron iddo.

"Roedd wedi ei gadw mewn amgylchiadau afiach oedd yn gwbl anaddas i unrhyw anifail, heb s么n am eryr aur."

Yn Llys Ynadon Hwlffordd ddydd Llun cafodd Smith ei wahardd rhag cadw anifeiliaid am 10 mlynedd, a'i orchymyn i dalu dirwy o 拢73, talu 拢200 o gostau, a dirwy dioddefwyr o 拢60. Cafodd 12 mis o orchymyn cymunedol.

Mae'r eryr aur, sydd tua thair neu bedair oed, yn derbyn gofal arbenigol ar hyn o bryd.

Ffynhonnell y llun, RSPCA