Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Sefydlu Senedd Ieuenctid i Gymru
Mae galwad i sefydlu senedd ieuenctid i Gymru wedi cael cefnogaeth gan holl bleidiau'r Cynulliad.
Mae'r Llywydd Elin Jones wedi dweud ei bod am weld senedd ieuenctid yn cael ei sefydlu "yn gynnar yn y tymor Cynulliad hwn".
Cafodd cynnig gan y Ceidwadwyr Cymreig ei gefnogi gan y pleidiau ddydd Mercher.
Dywedodd llefarydd addysg y Ceidwadwyr, Darren Millar AC: "Mae sefydlu senedd ieuenctid gydag adnoddau da yn gam hanfodol i sicrhau bod pobl ifanc yn cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth Cymru.
"Mae'r sefydliad gwleidyddol yn rhannu cyfrifoldeb i sicrhau bod pobl ifanc yn teimlo digon o symbyliad i fynd i bleidleisio."
Roedd y Ceidwadwyr wedi cynnig y senedd ieuenctid i gymryd lle prosiect Y Ddraig Ffynci a gaeodd yn 2014.
"Dywedodd Elin Jones AC: "Rydym wedi bod yn gweithio gyda'r Comisiynydd Plant a'r Ymgyrch dros Sefydlu Cynulliad Ieuenctid i Gymru i drafod y ffordd orau ymlaen.
"Rhaid i ni fynd 芒 phobl ifanc gyda ni wrth i ni wneud hyn."
Dywedodd llefarydd ar ran gweinidogion Llywodraeth Cymru: "Dylai unrhyw gorff etholedig ieuenctid eistedd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru fel y corff democrataidd dros Gymru."
Ychwanegodd y bydd gweinidogion yn darparu 拢1.8 miliwn o gyllid i'r corff Plant yng Nghymru er mwyn rhedeg prosiect 'Cymru Ifanc' sy'n galluogi i filoedd o bobl ifanc drafod gyda gweinidogion a gwneuthurwyr polisi, a dylanwadu ar eu gwaith.
Yn ystod y cyfnod cyn etholiad y Cynulliad, fe wnaeth y Ceidwadwyr addo torri cyflogau gweinidogion er mwyn talu am senedd i'r ifanc.