Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ailagor Twnnel Hafren wedi gwaith trydaneiddio
Mae Twnnel Hafren yn ailagor ddydd Sadwrn ar 么l bod ar gau am chwech wythnos ar gyfer gwaith trydaneiddio.
Fe gostiodd y gwaith o uwchraddio'r twnnel 拢10m.
Roedd yn rhan o gynllun ehangach gwerth 拢2.8bn i drydaneiddio'r rheilffordd rhwng Llundain a de Cymru.
Bu tri th卯m o 200 o beirianwyr yn gweithio 24 awr y diwrnod i'w gwblhau.
Gwasanaeth awyrennau
Yn ystod y chwe wythnos diwetha' ychwanegwyd o leiaf 30 munud at siwrneiau teithwyr wrth i drenau gael eu dargyfeirio drwy Gaerloyw.
Dros y cyfnod, mae awyrennau wedi bod yn rhedeg rhwng Caerdydd a Maes Awyr Dinas Llundain - gwasanaeth fydd yn parhau er bod y twnneli'n ailagor.
Un o'r camau nesaf fydd trydaneiddio y rheilffordd rhwng Abertawe a Chaerdydd.
Dywedodd Network Rail nad oes dyddiad penodol hyd yma ar gyfer y gwaith hwnnw.