'Drws yn agored' i gyfraith awtistiaeth yng Nghymru

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r drws "yn lled agored" i gyflwyno cyfraith newydd fyddai'n sicrhau hawliau pobl sydd ag awtistiaeth, yn 么l Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Gweinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans, ei fod yn bwysig rhoi cyfle i bolis茂au eraill yn ymwneud ag awtistiaeth i "sefydlu a gwneud eu gwaith".

Ond mae ymgyrchwyr ac elusennau yn galw am Fil Awtistiaeth yn y Cynulliad.

Mae deddfwriaeth debyg eisoes wedi cael ei weithredu yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Roedd pob un o'r prif bleidiau, ag eithrio Llafur, wedi cynnwys ymrwymiad i gyflwyno'r fath fesur yn eu maniffestos ar gyfer yr etholiad fis Mai.

Cefnogol

Mae Louise Quinn-Flipping o Abertawe yn gefnogol. Mae gan ei dau fab - Mason, 4 oed, a Logan sy'n 6 oed - awtistiaeth.

Dywedodd: "Ar hyn o bryd yng Nghymru mae'r math o wasanaethau y cewch chi, a pha mor dda yw'r gwasanaethau hynny yn dibynnu ar ble r'ych chi'n byw.

"Felly, yn Abertawe er enghraifft, mae'r gwasanaeth yn dda, ond mewn llefydd eraill fel Sir Gaerfyrddin neu Ben-y-bont mae 'na ddifygion a llawer o oedi, blynyddoedd a blynyddoedd."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd y gweinidog dros wasanaethau cymdeithasol, Rebecca Evans, fod Llywodraeth Cymru'n 'cadw meddwl agored' ar greu deddfwriaeth benodol ar awtistiaeth

Yn gynharach y mis hwn, fe drechwyd cais gan y Ceidwadwyr yn y Cynulliad i gael Mesur Awtistiaeth, oherwydd bod Llafur a'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi pleidleisio yn ei erbyn.

Mae'n debyg bod Ms Williams, Ysgrifennydd Addysg y Llywodraeth, yn bwriadu cwrdd ag ymgyrchwyr awtistiaeth ddydd Llun er mwyn trafod y mater.

Cymru oedd y wlad gyntaf erioed i gyflwyno strategaeth ar gyfer awtistiaeth yn 2008, ond mae'r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol erbyn hyn yn credu bod angen deddf.

Dywedodd Meleri Thomas ar ran y Gymdeithas: "Dyw bobl dal ddim yn cael y gwasanaethau iawn na'r diagnosis iawn mewn da bryd, felly dwi'n credu mai dyma'r unig ffordd i fynd."

Wrth gyfeirio at y trefniadau sydd eisoes mewn grym i ddelio ag anableddau dysgu a iechyd meddwl, dywedodd: "Beth sy'n tueddu i ddigwydd yw bod awtistiaeth yn cwympo trwy'r canol."

Wrth ymateb, dywedodd y Gweinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans: "Ry'n ni'n cadw meddwl agored yngl欧n ag a oes angen deddfwriaeth benodol ar gyfer awtistiaeth yn y dyfodol... Ar hyn o bryd mae gennym ni ddeddf sydd ond wedi bod mewn grym ers chwe mis, fydd yn trawsnewid y ffordd ry'n ni'n cynnig gwasanaethau."

  • Mwy ar Sunday Politics Wales, 大象传媒 One Wales, dydd Sul 30 Hydref am 11:00