Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Penodi contractwyr i ddatblygu marchnad ac oriel Wrecsam
Mae contractwyr wedi eu penodi i ddatblygu Marchnad y Bobl ac Oriel Wrecsam yn y dref.
Bydd Wynne Construction yn cydweithio 芒 Chyngor y Celfyddydau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru ar y prosiect gwerth 拢4.5m.
Mae'r cynllun yn cynnwys adnewyddu adeilad Marchnad y Bobl i gynnwys dwy oriel, ardaloedd perfformio, stondinau marchnad, siop Oriel Wrecsam a gofod addysgol.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, prif aelod cymunedau a phartneriaethau'r cyngor: "Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ynghyd 芒'i bartneriaid, yn edrych ymlaen at weithio gyda Wynne Construction a bwrw mlaen 芒'r prosiect.
"Mae hwn yn brosiect allweddol i Wrecsam, a thrwy gydweithio, gallwn sicrhau y bydd datblygiad Marchnad y Bobl Oriel Wrecsam yn llwyddiant."
Nid pawb sydd wedi bod o blaid y datblygiad, gyda rhai masnachwyr yn poeni y bydden nhw'n colli eu stondinau.
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Wynne Construction, Chris Wynne eu bod yn falch o ennill y cytundeb, ac y byddan nhw'n ymgynghori 芒'r gymuned leol a rhanddeiliaid wrth gwblhau'r gwaith.
Bydd Marchnad y Bobl yn parhau'n agored wrth i'r gwaith fynd rhagddo.