Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Methiant systematig' mewn gofal canser, medd adroddiad
Mae bwrdd iechyd wedi ei feirniadu am "fethiant systematig" ar 么l i glaf canser disgwyl am 132 o ddiwrnodau cyn cael ei driniaeth gyntaf.
Dywed adroddiad swyddogol fod meddygon ymgynghorol yn Ysbyty Glan Clwyd yn Sir Ddinbych wedi dangos "diffyg brys ofnadwy" wrth ymdrin ag anghenion claf a oedd wedi cael diagnosis o ffurf ymosodol ar ganser y prostad.
Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru hefyd wedi beirniadu'r modd y gwnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ymdrin 芒 chwyn gan y claf, sy'n cael ei adnabod fel Mr D mewn adroddiad i'r mater.
Hwn yw'r trydydd adroddiad o'i fath gan yr Ombwdsmon yn ymwneud 芒'r ysbyty yn y ddau fis diwethaf.
Dywedodd yr Ombwdsmon Nick Bennett: "Yn yr achos arbennig yma, roedd yna ddiffyg brys ofnadwy yn y modd yr atgyfeiriwyd rhwng meddygon ymgynghorol ar wahanol safleoedd ysbyty'r Bwrdd Iechyd.
"Ymddengys y bu methiant systematig i gydnabod ac ymateb i'r ffaith fod Mr D yn dioddef o ffurf ymosodol o ganser y prostad a allai fygwth ei fywyd ac a oedd angen triniaeth radical ar frys.
"Ni welais i unrhyw beth yn ymateb y Bwrdd Iechyd i fy ymchwiliad a allai gyfiawnhau methiant sydd wedi peri cymaint o bryder."
Oedi wrth drefnu llawdriniaeth
Cafodd Mr D ddiagnosis o ganser yng Ngorffennaf 2014.
Er bod canllawiau Llywodraeth Cymru yn dweud y dylai cleifion sydd newydd gael diagnosis o ganser ddechrau ar eu triniaeth cyn pen 31 diwrnod, bu'n rhaid i Mr D aros mwy na phedair gwaith yr amser sydd yn y canllawiau.
Bu oedi wrth gynnal ymchwiliadau diagnostig, ac wrth drefnu llawdriniaeth.
Mae'r Ombwdsmon hefyd wedi beirniadu'r modd y gwnaeth y bwrdd iechyd ymdrin 芒'r g诺yn am eu gofal gan ddweud fod hyn "wedi dwysau llawer ar lefel y gofid a'r pryder y byddai Mr D wedi ei brofi".
Mae'r bwrdd iechyd wedi cytuno i weithredu nifer o argymhellion, gan gynnwys ymddiheuriad ysgrifenedig llawn ac adolygiad o'r modd y mae ei wasanaeth wroleg yn cydymffurfio 芒 chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Dywedodd prif weithredwr Betsi Cadwaladr Gary Doherty eu bod yn ymddiheuro am unrhyw loes ac y bydd yn cysylltu yn uniongyrchol 芒'r claf er mwyn ymddiheuro am y methiannau.
"Tra bod ein gwasanaethau wroleg o dan bwysau mawr, mae'r modd y gwnaethom ddelio gyda gofal y claf yn annerbyniol," meddai.
"Doedd hi chwaith ddim yn dderbyniol fod penderfyniad wedi ei wneud i oedi cyn ymateb i gwynion ffurfiol y claf tan ar 么l cwblhau ei driniaeth."