Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cais i godi sied ieir enfawr yn ardal Llandeilo
- Awdur, Aled Scourfield
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Mae dyn sy'n ymgyrchu yn erbyn codi uned ar gyfer 32,000 o ieir ger ei gartref wedi rhybuddio y gallai fod yn "garcharor yn ei gartref ei hun" os ydy'r datblygiad yn cael ei ganiat谩u gan Gyngor Sir Caerfyrddin.
Mae Dr Rhys ap Delwyn Phillips yn dweud ei fod yn pryderu am lefelau nwy amonia ar y safle, ynghyd 芒'r effaith bosib ar yr amgylchedd.
Ffermwr lleol, Terry Davies, sydd wedi cyflwyno'r cais i gynhyrchu wyau maes ar y tir yng Nglanmyddyfi, Pentrefelin.
Dywed Dr Phillips y byddai ofn gadael ei d欧 oherwydd effaith y nwyon, pe bai'r cais yn cael ei ganiat谩u.
Mae'r naturiaethwr Iolo Williams wedi ychwanegu ei lais i'r rhai sy'n gwrthwynebu.
Dywedodd Dr Phillips ei fod yn poeni am effaith bosib ar yr amgylchedd:
"Bydd hwn yn cael effaith llawer mwy eang... mae hyn yn rhywbeth sydd yn mynd i effeithio ar Barc Dinefwr gerllaw ac mae naturiaethwyr wedi ymateb yn gryf dros ben."
'Effaith negyddol'
Mae dros 60 o bobl wedi sgwennu llythyrau yn gwrthwynebu'r cais.
Tra bod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi rhybuddio y gallai'r datblygiad gael effaith ar gennau prin -lichens-ar yst芒d Parc Dinefwr.
Mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru wedi disgrifio'r cais cynllunio fel un "anaddas ar gyfer lleoliad gwledig" ac wedi rhybuddio y gallai'r datblygiad gael effaith negyddol ar y tirlun a bioamrywiaeth.
Doedd yr ymgeisydd, Mr Terry Davies, ddim ar gael am ei fod ar wyliau dramor. Mewn datganiad, fe ddywedodd ei asiant cynllunio, Jason Evans: "Mae nifer o ddogfennau a gwybodaeth wedi eu cyflwyno gyda'r cais.
"Nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Asiantaeth Cefnffyrdd na swyddogion diogelu'r cyhoedd wedi gwrthwynebu'r cais.
"Fe fyddwn yn parhau i drafod gyda'r awdurdod lleol i sicrhau ein bod ni'n ateb pryderon y cyhoedd, ac fe fydd y mater yn cael ei drafod gan y Pwyllgor Cynllunio maes o law."
Mae disgwyl i'r cais cynllunio gael ei ystyried gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Sir G芒r yn gynnar yn y flwyddyn newydd.