Meddygon yn rhybuddio bod 'argyfwng posib' ar y gorwel

  • Awdur, Geraint Thomas
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Mae doctoriaid ysbytai Cymru wedi rhybuddio bod "argyfwng posib" ar y gorwel oherwydd llwyth gwaith a thrafferthion recriwtio.

Daw gwaith ymchwil Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru wrth i Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething gael ei holi ddydd Iau yngl欧n 芒 pharatoadau'r gwasanaeth iechyd ar gyfer y gaeaf.

Yn 么l y gwaith ymchwil, mae 43% o feddygon ymgynghorol ysbytai'r wlad yn credu fod y bylchau yn amserlenni meddygon dan hyfforddiant yn aml yn achosi "problemau sylweddol" o ran diogelwch cleifion.

Yn y cyfamser, does dim modd llenwi 40% o swyddi gwag meddygon ymgynghorol yng Nghymru.

Roedd hyn gan fod sawl achos lle "nad oedd ymgeiswyr o gwbl" yn 么l Dr Alan Rees, Is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru.

Trafferthion recriwtio

Daw'r pryderon i'r amlwg yn dilyn trafferthion tebyg i recriwtio meddygon teulu.

"Mae argyfwng recriwtio'r GIG yng Nghymru yn gwaethygu, ac nid yw wedi ei gyfyngu i ofal sylfaenol", medd Dr Rees.

Dyma'r tro cyntaf i Goleg Brenhinol y Meddygon lunio adroddiad am weithlu ysbytai Cymru yn unig.

Caiff yr adroddiad ei gyhoeddi wrth i'r sefydliad gynnal cynhadledd yng Nghaerdydd.

Mae Coleg Brenhinol y Meddygon yn gwneud 30 o argymhellion ac yn nodi nifer o heriau, gan gynnwys poblogaeth sy'n heneiddio a diwallu anghenion ardaloedd gwledig.

Mae'r sefydliad eisiau i fwy o fyfyrwyr sy'n hanu o Gymru i astudio meddygaeth yma, gan gynyddu'r posibilrwydd y byddan nhw'n aros yma i weithio.

Yn 么l Dr Rees, mae "cyn lleied 芒 10%" o fyfyrwyr sy'n astudio meddygaeth ym mhrifysgolion Cymru yn hanu o'r wlad.

Ychwanegodd bod angen "gweledigaeth hirdymor" i fynd i'r afael a'r broblem.

'Mwy o staff'

Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n ystyried canfyddiadau'r adroddiad.

Fe bwysleision nhw fod byrddau iechyd wedi bod yn "gweithio'n galed" i recriwtio mwy o staff, gan gynnwys doctoriaid ymgynghorol.

Dywedodd y llefarydd bod mwy o staff yn gweithio ar reng flaen y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru nag erioed o'r blaen ac y bydd y llywodraeth yn parhau i gefnogi byrddau iechyd i recriwtio mwy o staff, gan gynnwys doctoriaid trwy ymgyrch Hyfforddi / Gweithio / Byw.