Cynllun Rhentu Doeth Cymru 'yn garreg filltir bwysig'

Mae disgwyl i bob landlord preifat yng Nghymru fod wedi cofrestru gyda chynllun Rhentu Doeth Cymru erbyn dydd Mercher, neu fe allen nhw gael eu cosbi.

Nod y cynllun, medd yr Ysgrifennydd dros Gymunedau, Carl Sargeant, yw codi safonau o fewn y sector rhentu preifat.

Mae landlordiaid wedi cael blwyddyn i gydymffurfio 芒'r rheolau newydd, ond mae rhai wedi galw am ymestyn y cyfnod cofrestru, gyda'r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl yn dweud fod llawer o landlordiaid yn dal ddim yn ymwybodol o'r rheolau newydd.

Yn 么l Llywodraeth Cymru, does neb yn gwybod yn iawn faint o landlordiaid preifat sydd yna, ond yr amcangyfrif yw bod rhwng 70,000 a 130,000.

'Carreg filltir bwysig'

Mewn anerchiad nos Fawrth, dywedodd Mr Sargeant fod y cynllun yn garreg filltir bwysig: "Roedd Deddf Tai (Cymru) 2014 yn cynnwys deddfwriaeth arloesol wedi'i chynllunio i wella'r sector rhentu preifat drwy ei gwneud yn orfodol i bob landlord ac asiant preifat gael ei gofrestru a chael trwydded.

"Bydd y broses gofrestru yn nodi, am y tro cyntaf, landlordiaid preifat sy'n gosod eiddo a ble y mae'r eiddo hwnnw wedi'i leoli.

"Mae'r broses drwyddedu yn cynnwys prawf i weld a ydyn nhw'n bobl addas a phriodol ac, yn bwysicaf oll, yn rhoi hyfforddiant i'r rheini sy'n gosod ac yn rheoli eiddo yn uniongyrchol.

"Mae sicrhau bod landlordiaid ac asiantau yn hollol ymwybodol o'u cyfrifoldebau yn codi safonau, ac yn gwneud y sector yn un mwy deniadol.

Ffynhonnell y llun, Rhentu Doeth Cymru

"Mae 96% o'r rheini sy'n mynychu'r sesiynau hyfforddi wedi dweud y bydd yn eu gwneud yn landlordiaid gwell, a dyna yn union yw ein bwriad. Bydd hyn yn fanteisiol i'r landlordiaid ac i'r tenantiaid.

"Bydd y cynllun hefyd yn golygu bod llai o le i landlordiaid gwael esgeuluso eu cyfrifoldebau ac i landlordiaid sy'n twyllo gamddefnyddio eu pwerau heb orfod wynebu'r canlyniadau."

Bu Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn atgoffa landlordiaid ac asiantau bod angen iddyn nhw gofrestru a gwneud cais am drwyddedau.

Erbyn canol nos, nos Lun 21 Tachwedd, roedd dros 55,000 o landlordiaid preifat wedi cofrestru, 12,000 yn rhagor wedi dechrau ar y broses gofrestru, ac roedd dros 81,000 o ddefnyddwyr wedi creu cyfrifon ac yn rhan o'r broses gydymffurfio.

Oedi

Ond cydnabyddodd Mr Sargeant bod 'na oedi wedi bod yn y broses gofrestru: "Rwy'n canmol ymdrech fawr staff Rhentu Doeth Cymru, sy'n cael ei redeg gan Gyngor Dinas Caerdydd ar ran pob awdurdod lleol.

"Mae rhuthr fawr wedi bod i gofrestru yn y misoedd diwethaf. O ganlyniad, mae Rhentu Doeth Cymru wedi cymryd mwy o amser na'r arfer i ymateb i rai galwadau ac e-byst. Rwy'n gwerthfawrogi bod hyn wedi achosi pryder i rai landlordiaid sydd heb allu cwblhau'r broses gofrestru a thrwyddedu.

"Mae Rhentu Doeth Cymru wedi dweud na fydd y rheini sydd wedi dechrau ar y broses gydymffurfio yn wynebu camau gorfodi os ydynt wedi gwneud popeth posibl i geisio cydymffurfio. Ond, nid yw hyn yn esgus i anwybyddu'r gyfraith. Mae fy neges i landlordiaid preifat yn glir - mae'n rhaid i chi gymryd camau i gydymffurfio 芒 gofynion y gyfraith.

"Gwyddom y bydd rhai landlordiaid preifat yn herio'r gyfraith yn fwriadol. Byddant yn cael eu targedu, ac os ydynt yn methu 芒 chydymffurfio, byddant yn wynebu'r canlyniadau gan gynnwys dirwyon, cosbau penodedig, cyfyngiadau ar droi tenantiaid allan, a stopio rhent a gorchmynion ad-dalu."

'Effaith gadarnhaol'

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Dinas Caerdydd, y Cynghorydd Bob Derbyshire: "Rwy'n falch bod Cymru yn arwain y ffordd gyda Chynllun Rhentu Doeth Cymru, ac mai Cyngor Dinas Caerdydd yw'r awdurdod trwyddedu ar ei gyfer.

"Mae'r sector rhentu preifat yn opsiwn gynyddol bwysig i nifer o bobl, ac felly mae'n hollbwysig ein bod yn codi safonau fel bod landlordiaid, asiantau a thenantiaid i gyd yn ymwybodol o'u hawliau a'u cyfrifoldebau.

"Mae'r cynllun eisoes yn cael effaith gadarnhaol. Mae nifer o'r rheini sydd wedi cwblhau'r hyfforddiant wedi dweud y bydd yn eu helpu i fod yn landlordiaid gwell."