'Gwahaniaethau' mewn triniaeth sepsis ar draws Cymru

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Dydi cyflwr sydd wedi ei gysylltu 芒 1,500 o farwolaethau pob blwyddyn yng Nghymru ddim yn cael ei drin yn yr un modd mewn gwahanol ysbytai ar draws y wlad, yn 么l gwaith ymchwil newydd.

Gall cyflwr sepsis arwain at sioc a methiant y prif organnau yn dilyn haint.

Mewn arolwg o 290 o gleifion ysbyty oedd ag arwyddion o sepsis, dim ond 12% oedd wedi eu profi'n gynnar a'u trin yn unol 芒 chanllawiau ymarfer gorau.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, fod angen gwneud mwy a'i fod yn cadw "meddwl agored" am yr opsiynau posib.

Y llynedd, cafodd dros 7,500 o bobl eu trin am sepsis mewn ysbytai.

Mae modd trin y cyflwr yn effeithiol gyda chyffuriau antibiotig, os yw'r cyflwr yn cael ei ddarganfod yn ddigon buan.

Ymchwil newydd

Bydd gwaith ymchwil dan arweinyddiaeth yr ymgynghorydd gofal dwys, Dr Tamas Szakmany, yn cael ei gyhoeddi'r wythnos hon.

"Rydym wedi gweld yn ein hymchwil eleni fod gwahaniaethau mawr yn y ffordd yr oedd y timau clinigol yn ymateb i sepsis," meddai Dr Szakmany.

"Mae pocedi pwysig o ymarfer da iawn ac rydym wedi gweld bod ysbytai a byrddau iechyd lle nad yw'r ymateb cystal."

Mae'r pwnc yn destun rhaglen Week In Week Out 大象传媒 Cymru nos Lun, pan fydd y dyn tywydd Derek Brockway yn edrych ar amgylchiadau marwolaeth ei dad o'r cyflwr .

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Rhieni Derek Brockway - Cliff a Joan Brockway

Dywedodd y gweinidog iechyd wrth Derek Brockway: "Mae ganddon ni raglen gwella iechyd.

"Ni yw'r wlad gyntaf yn y DU i gael y system rhybuddio cynnar 'ma... ond mae hi wastad wedi bod yn fater o ba mor gyson y mae'r system wedi cael ei dilyn.

"Os ydym yn cysoni'r gwahaniaeth 'na, fe fyddwn yn achub mwy o fywydau. Felly wna' i ddim cymryd arna' i chi na neb arall ein bod yn berffaith lle'r ydym ar hyn o bryd."

Dywedodd Mr Gething ei fod yn ystyried os y dylai pob ysbyty sgrinio cleifion gyda symptomau yn yr un ffordd.

"Mae gen i feddwl hollol agored am hynny," meddai. "Nid ydw i'n mynd i redeg i ffwrdd o ddewisiadau sydd angen eu gwneud i wella'r gwasanaeth."

Yn 么l awgrymiadau cynnar o ymchwil blynyddol t卯m ymchwil Dr Szakmany, fydd yn cael ei gyhoeddi'r flwyddyn nesaf, mae gwelliant wedi bod yn y sefyllfa.