Ymchwil dementia: Angen buddsoddi

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Mae arbenigwyr ym maes dementia wedi dweud wrth 大象传媒 Cymru fod angen rhoi mwy o arian ymchwil i'r cyflwr.

Erbyn hyn, am y tro cyntaf erioed, dementia yw prif achos marwolaethau yng Nghymru a Lloegr.

Mae marwolaethau o glefydau eraill, fel clefyd y galon, canser yr ysgyfaint a str么c wedi gostwng ond y ffigwr ar gyfer dementia ac Alzheimers wedi dyblu ers 2001.

Fe ddywed Llywodraeth Cymru bod dementia "yn flaenoriaeth" a'u bod "wedi darparu mwy na 拢8 miliwn o gyllid ychwanegol".

'Angen mwy'

Mewn cyfweliad ar raglen y Post Cyntaf ar 大象传媒 Radio Cymru dywedodd Iwan Williams o swyddfa Comisiynydd Pobl H欧n Cymru: "Mae tua 45,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghymru, ond mae'r gyfradd diagnosis yn isel iawn.

"Dim ond rhyw 43% sy'n cael diagnosis ffurfiol. Ydy'r gwasanaethau yn ddigonol?....na, mae eisiau mwy o fuddsoddi a mwy o ddealltwriaeth o'r hyn y mae pobl gyda dementia yn ei wynebu."

Er mwyn i hynny ddigwydd mae angen mwy o ymchwil a mwy o fuddsoddi. Dydi faint sy'n cael ei wario ar hyn o bryd ddim yn ddigon yn 么l rhai.

Dywedodd Dr Catrin Hedd Jones, sy'n darlithio mewn astudiaethau dementia i'r coleg Cymraeg cenedlaethol: "Roedd 拢74 miliwn yn cael ei wario ar ymchwil dementia dros y DU yn 2014, ac roedd gwariant ar ymchwil canser yn 拢503m.

"Dydan ni ddim yn dweud bod dim angen gwario ar ymchwil canser, ond os mai dementia ydi'r prif reswm dros farwolaethau mae'n naturiol bod rhaid i ni gael mwy o ymchwil i mewn i ddementia."

'Dim yn ddigonol'

Mae 71 o welyau yng nghartref gofal Bryn Seiont yng Nghaernarfon, ac mae pob un yn llawn ac mae'r rhestr aros yn faith.

Mae cartrefi eraill yn gorfod cau, ac mae hynny'n poeni rheolwr cartref Bryn Seiont, Gwynfor Jones.

"Mae isho edrych ar sut mae'r cartrefi preswyl yn cael eu hariannu," meddai.

"Dydi o ddim yn ddigonol i'r clefyd. Mae pobl sydd 芒 dementia angen lot mwy o ofal a lot mwy o gymorth na phobl mewn cartrefi preswyl cyffredinol, ac mae angen cydnabyddiaeth o hynny."

Blaenoriaeth

Wrth ymateb i'r alwad dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mewn datganiad:

"Mae dementia yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac rydym wedi darparu mwy na 拢8miliwn o gyllid ychwanegol dros y ddwy flynedd ddiwethaf i ddatblygu gwasanaethau dementia ymhob cwr o Gymru.

"Rydym yn gweithio'n agos ar hyn o bryd gyda rhanddeiliaid allweddol, sefydliadau partner a defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr i ddatblygu Cynllun Gweithredu Strategol ar Ddementia yr ydym yn gobeithio ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghori'n ehangach arno cyn y Nadolig.

"Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar yr hyn mae defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn ei ddweud wrthym sy'n arbennig o bwysig iddyn nhw - er enghraifft, diagnosis cynnar a chymorth yn dilyn diagnosis."