NatWest yn cau naw cangen yng Nghymru

Mae gwleidyddion wedi ymateb yn chwyrn wedi i Fanc NatWest gyhoeddi y byddan nhw'n cau naw cangen yng ngogledd Cymru yn ystod 2017.

Fe ddywed y banc bod y defnydd o'r canghennau lleol wedi lleihau'n sylweddol wrth i fwy o bobl ddefnyddio adnoddau bancio ar ffonau clyfar neu ar-lein.

Y naw cangen fydd yn cau yw Porthmadog, Treffynnon, Prestatyn, Rhuthun, Caergybi, Porthaethwy, Caernarfon, Amlwch a Chonwy.

Fe fyddan nhw i gyd yn cau dros gyfnod o bum wythnos rhwng 30 Mai a 3 Gorffennaf y flwyddyn nesaf.

Y NatWest yw'r banc olaf yng Nghonwy, ac fe ddaw'r cyhoeddiad yn fuan wedi'r penderfyniad i gau banc olaf Cyffordd Llandudno gerllaw.

'Siom a dicter'

Dywedodd Aelod Seneddol Ceidwadol Aberconwy, Guto Bebb: "Rwy'n cael trafodaethau cyson gyda gr诺p bancio RBS (y mae Nat West yn rhan ohono} ac rwyf wedi trefnu cyfarfod ddydd Gwener gyda Hollie Voyce a Mark Douglas, y ddau yn uwch-swyddogion yn RBS, i fynegi fy siom a'r dicter fydd yn cael ei deimlo gan drigolion a busnesau yng Nghonwy."

Wrth son am gangen Porthmadog yn benodol dywedodd Liz Saville Roberts, AC Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd: "B没m mewn cyfarfod diweddar 芒 swyddogion o NatWest i drafod gwasanaethau bancio yn Nwyfor Meirionnydd. Doedd dim s么n am y bwriad i gau'r gangen ym Mhorthmadog yn ystod y cyfarfod yma.

"Tra fy mod yn hynod siomedig 芒 bwriad NatWest i gau eu cangen ym Mhorthmadog, mae tueddiad clir yn dod i'r amlwg gyda changhennau eraill wedi cau yn ddiweddar ym Mlaenau Ffestiniog, Bermo a Thywyn.

"Rwyf wedi 'laru clywed fod gan gwsmeriaid y dewis o ddefnyddio gwasanaethau bancio ar-lein gan fod hyn yn diystyru darpariaeth band-eang annibynadwy mewn rhannau o Gymru megis ardaloedd yn Nwyfor Meirionnydd.

"Os yw NatWest yn benderfynol o ddilyn y trywydd yma o gau canghennau yna mae'n ddyletswydd arnynt i ddilyn y canllawiau a osodwyd gan y Gymdeithas Bancio Prydeinig sy'n galw ar fanciau i sicrhau fod mesurau mewn lle i liniaru effaith cau canghennau ar gymunedau."

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, NatWest yw'r banc olaf yn nhref Conwy

Bydd tair cangen yn cau ar Ynys M么n, a dywedodd AS Llafur yr ynys, Albert Owen: "Mae hwn yn benderfyniad gwarthus.

"Mae cau canghennau lleol yn cael ei wneud drwy'r drws cefn: yn gyntaf maen nhw'n annog cwsmeriaid i wneud eu bancio ar-lein, cwtogi oriau agor ac yna cyflwyno ffigyrau sy'n ceisio cyfiawnhau cau canghennau lleol - dydi o ddim yn ddigon da.

"Nid yw Nat West yn gwrando ar bryderon eu cwsmeriaid. Nod y rhaglen enfawr yma o gau canghennau yw lleihau costau a chynyddu elw i'r cyfranddalwyr."

Wrth wneud eu cyhoeddiad, mae Banc Nat West yn pwysleisio adnoddau eraill sydd ar gael yn yr ardaloedd dan sylw, gan gynnwys peiriannau twll-yn-y-wal a Swyddfa'r Post, ac maen nhw hefyd yn dweud y bydd arbenigwr ar gael yn lleol tan i'r canghennau gau i gynorthwyo pobl gyda sgiliau digidol er mwyn gwneud defnydd llawn o wasanaethau ar-lein y banc.