Llygredd Afon Teifi yn lladd 'o leiaf 1,000 o bysgod'

Disgrifiad o'r llun, Bu Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal profion ar yr afon ddydd Mawrth

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dweud bod yr holl eog a brithyll m么r ar hyd dwy filltir o'r Afon Teifi wedi eu lladd ar 么l i'r afon gael ei llygru.

Bu swyddogion amgylcheddol o CNC yn cynnal profion yn ystod y bore ger Tregaron a Llanddewi Brefi yn dilyn y llygredd dros y penwythnos.

Mae'r corff wedi dweud bod o leiaf 1,000 o bysgod wedi marw, a'u bod yn credu mai safle amaethyddol yn ardal Tregaron yw ffynhonnell y llygredd.

Mae hynny'n cynnwys y rhan fwyaf o bysgod hyd at chwe milltir i lawr yr afon o ble ollyngwyd y llygredd.

Cafodd y llygredd ei adrodd i CNC ddydd Sadwrn, ac mae'r gwaith yn parhau i geisio lleihau'r effaith ar yr afon a bywyd gwyllt.

Roedd y corff wedi dweud mai cannoedd oedd wedi marw i ddechrau ond mae'r ffigwr wedi cynyddu yn ystod y dydd.

Ffynhonnell y llun, Steffan Jones

Dywedodd swyddog ar ran CNC, Ben Wilson, y byddai'r ymchwiliad yn parhau i'r flwyddyn newydd ac y gallai camau pellach gael eu cymryd.

Ond yn 么l y mudiad Brithyll M么r Cymru fe allai'r "miloedd" o bysgod marw gael effaith andwyol ar yr ardal.

"Fe allai hi gymryd hyd at bymtheg mlynedd i'r afon adfer yn dilyn digwyddiad o'r maint yma, os o gwbl," meddai Dai Watkins, llefarydd y mudiad.

"Roedd lefelau brithyll m么r ac eog eisoes yn beryglus o isel ar hyd yr afon hon oedd unwaith yn adnabyddus yn fyd-eang, ac sydd wedi bod dan bwysau ers degawdau."

Ychwanegodd bod "trychineb" o'r fath wedi bygwth digwydd ers sbel, gan ddweud nad oedd digon yn cael ei wneud i annog "ffermio sydd yn fwy amgylcheddol gyfeillgar".

Disgrifiad o'r fideo, Ymateb y naturiaethwyr Iolo Williams i'r llygredd yn Afon Teifi

Mae'r naturiaethwr Iolo Williams hefyd wedi disgrifio'r sefyllfa fel "argyfwng go iawn", gyda'r afon fel arfer yn denu pysgotwyr "yn eu cannoedd" i'r ardal.

Dywedodd Hywel Morgan, sy'n bencampwr pysgota a mab y diweddar Moc Morgan, wrth raglen y Post Cyntaf y gallai gymryd hyd at ddeg mlynedd i adfer y rhan o'r afon sydd wedi ei heffeithio.

"Ffeindio ni byth faint yn union o bysgod sydd wedi eu lladd achos fod pysgod bach i gyd wedi cael eu golchi lawr yr afon."

Disgrifiad o'r sainHywel Morgan yn siarad ar y Post Cyntaf

Cyfarfod brys

Dywedodd rheolwr dyletswydd y de-orllewin ar gyfer CNC, Gavin Bown bod y llygredd wedi cael effaith sylweddol ar ardal eang o'r afon.

"Wrth i'n swyddogion barhau i asesu'r effaith ar yr afon, mae nifer y pysgod marw rydym yn darganfod yn parhau i godi."

"Mae mesuriadau rheoli llygredd yn parhau ac mi ydyn ni yn ymchwilio i achos y digwyddiad er mwyn gwneud yn si诺r na fydd mwy o lygredd yn dod mewn i'r afon."

Cafodd cyfarfod brys o bysgotwyr lleol ei gynnal yn Nhregaron nos Lun i drafod y digwyddiad.