Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ystyried cludo staff i Ysbyty Glangwili ar fysiau
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ystyried cludo doctoriaid a nyrsys i mewn i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin ar fysiau er mwyn lleddfu problemau parcio yno.
Fe gadarnhaodd cadeirydd Cyngor Iechyd Cymunedol Hywel Dda, Barry Williams, wrth 大象传媒 Cymru fod defnyddio maes parcio cyfagos archfarchnad Morrisons ym Mhensarn yn cael ei ystyried fel opsiwn, ond nad oedd y bwrdd iechyd wedi gwneud penderfyniad terfynol.
Cafodd y cynnig ei drafod mewn cyfarfod diweddar o Gyngor Tref Caerfyrddin.
Mae maes parcio'r ysbyty yn aml yn llawn, gyda cherbydau'n cael eu gadael gan gleifion a'u teuluoedd ar ffyrdd cyfagos.
Dywedodd un o gynghorwyr sir Plaid Cymru yng Nghaerfyrddin, Alun Lenny, fod y broblem yn achosi trafferthion i yrrwyr yn ogystal 芒 chleifion.
"Dangosodd arolwg gan y Bwrdd Iechyd bod dros 20% o gleifion yn methu apwyntiadau oherwydd problemau parcio," meddai Alun Lenny.
"Tra'n falch iawn bod mwy o glinigau'n cael eu cynnal yng Nglangwili, mae'n hollol annerbyniol bod cymaint o gleifion, ar 么l misoedd o aros i weld arbenigwr, yn gorfod gadael eu ceir ar ochr y ffordd neu hyd yn oed mynd adref. Mae hefyd yn broblem ddifrifol i staff ac i ymwelwyr yn ystod oriau brig."
Newidiadau ar droed
Awgrymodd y cynghorydd y gallai'r bwrdd iechyd ystyried gosod deciau parcio dros dro, allai gael eu codi o fewn wythnos.
"Byddai hynny'n costio arian sylweddol i'r Bwrdd Iechyd, ond mae arian mawr yn cael ei wastraffu nawr am fod 20% o gleifion yn methu eu hapwyntiad," meddai.
Mynnodd Rheolwr Trafnidiaeth a Theithio Cynaliadwy'r bwrdd iechyd, Gareth Skye, eu bod yn cymryd materion parcio ar safle Ysbyty Glangwili "o ddifrif".
"Rydyn ni'n gweithio'n galed i wella'r sefyllfa ac fe fyddwn ni'n parhau i weithredu ein strategaeth gwella meysydd parcio dros y flwyddyn nesaf," meddai.
Mae'r bwrdd iechyd eisoes wedi gwneud rhai newidiadau, gan gynnwys gwneud 38 o lefydd parcio oedd wedi'u neilltuo ar gyfer ymgynghorwyr ar gael at ddefnydd cyffredinol, a chreu lle parcio i 24 car ychwanegol erbyn Ebrill 2017.
Mae cyfleuster parcio a theithio eisoes yn bodoli ar faes sioe Nant-y-ci, ar gyrion Caerfyrddin.