Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Glanaethwy i berfformio darn coffa Aberfan yn America
Mae 70 aelod o g么r Glanaethwy ar fin hedfan allan i America ar gyfer perfformio darn coffa trychineb Aberfan, Cantata Memoria.
Bydd y c么r yn perfformio gwaith y cerddor Karl Jenkins a'r Prifardd Mererid Hopwood ar lwyfan Neuadd Carnegie yn Efrog Newydd mewn cyngerdd arbennig fel rhan o g么r rhyngwladol 300 llais.
Yn dilyn llwyddiant y c么r ar raglenni teledu fel Last Choir Standing a Britain's Got Talent, mae'r cyngerdd yma yn un o uchafbwyntiau'r c么r yn 么l y cyd-gyfarwyddwr, Cefin Roberts.
Dywedodd: "Mae hwn yn un o'r uchafbwyntiau. Mae cael perfformio mewn neuadd mor enwog yn brofiad mawr.
"Mae cael perfformio'r stori yma mewn premier Americanaidd yn fraint."
Fe gafodd Cantanta Memoria ei berfformio gyntaf n么l ym mis Hydref yng nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd i goffau trychineb Aberfan, pan laddwyd 116 o blant a 28 oedolyn ym mis Hydref 1966.
'Aros yn y cof fel craith'
Mae Cefin Roberts yn cofio'r trychineb yn iawn: "Dwi'n cofio fy anti Luned yn dod i ddweud wrtha i fod 'na rywbeth wedi digwydd yn y de.
"Ma' hwna wedi aros yn fy nghof fel craith ers hynny."
Doedd y rhan helaeth o aelodau'r c么r heb eu geni pan ddigwyddodd trychineb Aberfan, ond mae'r aelodau ieuengaf yn edrych ymlaen at gael perfformio'r darn o flaen cynulleidfa o America.
Dywedodd un o'r aelodau, Celyn Cartwright: "Mae 'na gyffro ac ychydig o nerfau. Mae'n mynd i fod yn brofiad anhygoel cael cydweithio efo'r holl gorau eraill a chael canu gyda cherddorfa.
"Mae'r darn wedi ei gyfansoddi am rywbeth sydd wedi digwydd yng Nghymru, felly mae'n golygu cymaint i ni fel c么r o Gymru i gael ei berfformio a gobeithio gwneud job dda ohoni."
Bydd c么r Glanaethwy yn perfformio Cantata Memoria yn Neuadd Carnegie, Efrog Newydd Nos Sul, 15 Ionawr.