Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Datblygiadau technoleg newydd 'yn bygwth y Gymraeg'
Fe allai datblygiadau technoleg newydd fel teclynnau gorchymyn ar lafar Alexa a Siri fod yn un o'r bygythiadau mwyaf i'r iaith Gymraeg, yn 么l un arbenigrwaig.
Mae teclynnau o'r fath yn gynyddol boblogaidd mewn cartrefi, ac mae modd eu defnyddio i chwilio am wybodaeth neu atgoffa pobl o ddigwyddiadau a negeseuon.
Dywedodd Delyth Prys, Pennaeth Uned Technolegau Iaith yng Nghanolfan Bedwyr Prifysgol Bangor, y gallai'r teclynnau arwain teuluoedd i siarad Saesneg yn hytrach na Chymraeg yn y cartref.
"Mae hyn yn un o'r bygythiadau mwyaf sydd wedi bod i'r iaith Gymraeg er amser maith," meddai wrth raglen Taro'r Post 大象传媒 Radio Cymru.
"O fewn y ddwy neu dair blynedd nesaf, fe fyddwn ni'n symud fwy, fwy i beidio bod yn teipio pethau mewn i'r cyfrifiadur, ond i fod yn dweud wrth y cyfrifiadur beth i'w wneud."
'Malio dim' am y Gymraeg
Ers 2015 mae Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol Cymru wedi bod yn ceisio datblygu adnoddau newydd ar gyfer siarad Cymraeg gyda chyfrifiaduron.
Mae'n cynnwys prototeip o system cwestiwn ac ateb lle mae cynorthwyydd personol o'r enw 'Macsen' yn gallu ateb cwestiynau llafar fel 'beth yw'r newyddion?' neu 'beth yw'r tywydd?'.
Ond gyda chymaint bellach yn defnyddio teclynnau gan y cwmniau mawr, y pryder yw y gallai hynny droi iaith aelwydydd Cymraeg i'r Saesneg.
Ac mae'n syndod, meddai Delyth Prys, cymaint y mae pobl yn siarad gyda'r peiriannau yma unwaith maen nhw'n darganfod mor gyfleus ydynt.
Ychwanegodd nad oedd hi'n credu fod cwmniau technoleg masnachol yn "malio dim am yr iaith Gymraeg".
"Mae grym masnachol y Saesneg mor gryf. Oni bai ein bod ni drwy'r llywodraeth yn gofyn iddyn nhw ddarparu hyn drwy ieithoedd eraill tydi nhw ddim yn mynd i wneud hynny," meddai.