Pryder am ddyfodol y Cyngor Llyfrau yn sgil adolygiad

Disgrifiad o'r fideo, Pryder Alun Ffred Jones am ddyfodol y Cyngor Llyfrau
  • Awdur, Gareth Pennant
  • Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru

Mae pryderon wedi codi am ddyfodol y Cyngor Llyfrau yn sgil adolygiad sy'n edrych ar y diwydiant cyhoeddi a llenyddiaeth yng Nghymru.

Yn 么l un cyn-weinidog diwylliant ar raglen Newyddion 9 大象传媒 Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn "amheus" o sefydliadau cenedlaethol annibynnol.

Daeth sylwadau Alun Ffred Jones ar 么l iddi ddod i'r amlwg y bydd yr adolygiad bum mis yn hwyr yn adrodd yn 么l.

Dywedodd Llywodraeth Cymru na all "unrhyw un amau cefnogaeth" y gweinidog sy'n gyfrifol am ddiwylliant, Ken Skates, tuag at sector llyfrau.

Disgrifiad o'r llun, Mae grantiau'r Cyngor Llyfrau'n cefnogi tua 200 o gyhoeddiadau Cymraeg bob blwyddyn

Bwriad yr adolygiad yw edrych ar amcanion diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd Llywodraeth Cymru wrth gefnogi'r diwydiant llenyddiaeth a chyhoeddi yng Nghymru.

Is-Ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yr Athro Medwin Hughes yw cadeirydd y gr诺p.

'Lle i bryderu'

Dywedodd Mr Jones, oedd 芒 chyfrifoldeb dros ddiwylliant rhwng 2008 a 2011: "Dwi'n credu bod gan y Cyngor Llyfrau le i bryderu.

"Mae'r gweinidog yma, Ken Skates, wedi dangos eisoes ei fod eisiau torri crib rhai o'r sefydliadau cenedlaethol - yr Amgueddfa Genedlaethol - ac mae ei olwg o hefyd ar y Llyfrgell Genedlaethol.

"Wrth gwrs, mi ddaru o drio torri cyllideb y Cyngor Llyfrau rhyw ddwy flynedd yn 么l ond, ar y pryd, fe ddaru ei f贸s o, Edwina Hart, eistedd arno fo a dwi'n credu efallai ei fod o wedi anghofio hynny."

Ychwanegodd: "Yn sicr mae yna gwestiynau achos mae'r gweinidog wedi dangos eisoes ei fod o'n amheus o sefydliadau cenedlaethol annibynnol sydd y tu allan i ddylanwad uniongyrchol y llywodraeth."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Llywodraeth Cymru na all "unrhyw un amau cefnogaeth" Ken Skates i'r sector llyfrau

Roedd yr adolygiad i fod i gyflwyno argymhellion i'r llywodraeth ym mis Medi.

Y rheswm am yr oedi, meddai'r gr诺p, yw'r "nifer sylweddol iawn", sef dros 800 o bobl, sydd wedi ymateb i'r ymgynghoriad.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod yn gefnogol iawn erioed i'r diwydiant cyhoeddi a llenyddiaeth yng Nghymru ac mae wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y strwythurau sy'n bodoli'n rhai addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

"Ni all unrhyw un amau cefnogaeth Ysgrifennydd y Cabinet i'r sector llyfrau, ac yn arbennig gan fod cyllideb y Cyngor Llyfrau wedi'i diogelu tra bo cyllidebau eraill wedi'u torri."