Nodi 40 mlynedd ers gweld UFO yn Sir Benfro

Disgrifiad o'r fideo, 40 mlynedd ers i 'estroniaid' ddod i Sir Benfro

Mae pentre' yn Sir Benfro yn nodi 40 mlynedd ers i griw o blant ysgol weld UFO honedig.

Mae cynhadledd wedi ei threfnu yn Aber Llydan ddydd Sadwrn gan Rwydwaith UFO Abertawe i nodi'r digwyddiad yn 1977.

Roedd nifer wedi honni gweld pethau anghyffredin yn yr ardal y flwyddyn honno, ond roedd yr hyn welodd y plant yn fwy rhyfeddol.

Dywedodd y disgyblion eu bod wedi gweld llong ofod ger cae chwarae - ac fe dynnodd y plant luniau tebyg o'r hyn welson nhw.

Fe ddenodd y digwyddiad sylw'r cyfryngau byd eang, ac mae'r achos yn un o'r enwocaf yng Nghymru hyd heddiw.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd rhai o'r plant iddyn nhw weld dyn mewn siwt arian yn dod allan o long ofod

Roedd David Davies yn 10 oed ar y pryd, ac wedi clywed adroddiadau am bobl yn gweld "soseri hedfan".

Dywedodd wrth 大象传媒 Cymru: "Doeddwn i ddim yn credu'r peth yn syth felly fe es i i'r ardal ar 么l i gloch yr ysgol ganu."

Disgrifiodd yr hyn a welodd fel llong ofod "siap sig芒r gyda chromen dros y traean canol".

"Dim ond am gwpwl o eiliadau oedd o yna. Fe wnaeth o 'popio' fyny cyn diflannu tu 么l i goeden."

Disgrifiad o'r llun, Mae David Davies yn dweud bod y drafodaeth am UFOs wedi effeithio ei fywyd bob dydd ers y digwyddiad

Doedd yr athrawon ddim yn coelio'r plant, felly fe wnaeth y prifathro eu gwahanu a'u gorchymyn i dynnu llun o'r hyn a welson nhw. Er bod gwahaniaethau bach rhwng yr ymdrechion, roedd darluniau'r plant i bob pwrpas yr un fath.

Dywedodd Mr Davies bod y dyddiau canlynol "fel rollercoaster gwyllt".

"Fe aeth y cyfryngau yn wallgo', ac roedd hi'n anodd cael amser i setlo a meddwl o ddifri' am yr hyn oedden ni wedi ei weld," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Dyma'r llun a greodd David Davies yn 1977
Disgrifiad o'r llun, Fe dynnodd disgyblion Ysgol Aber Llydan nifer o luniau go debyg o'r gwrthrych

Dim tystiolaeth

Fe wnaeth yr aelod seneddol ar y pryd - cyn Ysgrifennydd Cymru Nicholas Edwards - gysylltu gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi i nifer o wrthrychau eraill gael eu gweld yn yr ardal, ac mae nifer o ddamcaniaethau wedi eu cynnig.

Aeth Awyr-Lefftenant Cowan o safle'r Awyrlu Brenhinol ym Mreudeth i archwilio'r safle, ond ni wnaeth ganfod unrhyw dystiolaeth.

Yn ei adroddiad, fe soniodd am y posibilrwydd bod "rhywun lleol yn chwarae triciau" a bod y disgrifiad o'r estroniaid "yn debyg iawn i ddisgrifiad o'r math o siwt warchodol fyddai'n cael ei ddefnyddio pe byddai t芒n yn un o'r purfeydd olew lleol".

Fe fyddai hynny'n cydfynd 芒 stori dyn busnes lleol, Glyn Edwards, wnaeth gyfadde' yn 1996 ei fod wedi crwydro'r ardal mewn siwt arian yn 1977 fel j么c.

Disgrifiad o'r llun, Aeth y cyfryngau ar y pryd yn "wallgo'" gyda hanes plant Aber Llydan

I nodi 40 mlynedd ers y digwyddiad, mae cynhadledd yn Aber Llydan ddydd Sadwrn, wedi ei threfnu gan Rwydwaith UFO Abertawe.

Dywedodd y trefnydd Emlyn Williams bod yr achos wedi tanio diddordeb ar draws y byd.

Pan ofynnwyd iddo os oedd yn credu bod yr achos yn un go iawn, dywedodd: "Gall un plentyn ddweud celwydd....ond dosbarth cyfan?

"Dros gyfnod o 40 mlynedd, fe allai o leia' un ohonyn nhw fod wedi cyfadde' eu bod wedi gwneud y cyfan i fyny - ond dydyn nhw ddim wedi gwneud hynny."

Meddwl agored

Yn 么l David Davies, sydd hefyd yn siaradwr gwadd yn y gynhadledd, mae'n cadw meddwl agored wrth geisio gwneud synnwyr o'r hyn a welodd.

Ond mae'n mynnu na wnaeth ar unrhyw adeg wneud m么r a mynydd o'i stori.

"Mae pobl yn cael hwyl am ben rhywun sy'n dweud iddyn nhw weld UFO," meddai, gan ddisgrifio'i fywyd yn yr ysgol fel un "trist".

"Fe gefais fy nghuro oherwydd yr hyn ddigwyddodd i mi. Fe fyddai wedi bod yn llawer haws i mi wadu'r stori."