Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyhoeddi artistiaid Gig Pafiliwn Eisteddfod Ynys M么n
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi'r artistiaid fydd yn perfformio yn 'Gig Pafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Ynys M么n' eleni.
Bydd Yws Gwynedd, Yr Eira, Alys Williams a'r band, a'r beatbocsiwr Mr Phormula yn perfformio gyda cherddorfa'r Welsh Pops, oedd hefyd yn perfformio yn Gig Pafiliwn y Fenni llynedd.
Bydd y gig yn cael ei gynnal nos Iau, 10 Awst.
Yn 么l yr Eisteddfod roedd 'na alw mawr arnynt i lwyfannu gig arall yn y pafiliwn yn dilyn llwyddiant y gig llynedd ble roedd 'na dros 1,600 o bobl yn y gynulleidfa.
Dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Elfed Roberts: "Roedd Gig y Pafiliwn 2016 yn torri tir newydd i ni fel Eisteddfod.
"Roedd yn brofiad gwefreiddiol i weld cynulleidfa o bob oed yn mwynhau bandiau Cymraeg yn y Pafiliwn," meddai.
"Cawsom nifer o alwadau ar 么l yr Eisteddfod yn gofyn i ni gynnal noson debyg yn Ynys M么n felly roedd yn benderfyniad hawdd i'w wneud gydag Yws Gwynedd a'r band ac Yr Eira ar dop y rhestr o artistiaid i'w gwahodd."
DJ Radio 1 a Radio Cymru, Huw Stephens fydd yn arwain y noson a bydd y cerddor Owain Llwyd yn dychwelyd i arwain y gerddorfa.
"Mae'r bandiau sydd gyda ni eleni yn rai sydd yn sicr o apelio at ddilynwyr y Sin Roc Gymraeg a dwi'n edrych ymlaen at gydweithio gyda nhw," meddai Mr Llwyd.