Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cronfa 拢1m i annog ysgolion i ddatblygu cerddorion ifanc
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw'n sefydlu cronfa newydd gwerth 拢1m er mwyn annog plant i ddod yn gerddorion.
Gobaith gweinidogion yw y bydd cyrff yn y sector breifat a'r sector gyhoeddus yn cyfrannu i'r gronfa, sy'n gobeithio gwneud taliadau i gefnogi Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth.
Mae'r 拢1m yn cael ei roi i Gyngor Celfyddydau Cymru, y corff sy'n gyfrifol am lansio'r gronfa.
Dywedodd Kirsty Williams yr Ysgrifennydd Addysg: "Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn dangos i bobl yn y sector gyhoeddus a'r sector breifat ein bod o ddifri' yngl欧n 芒 hyn, a byddan nhw hefyd felly am gyfrannu i'r Gwaddol," meddai.
"Pe bai hyn yn digwydd yna rydym yn gobeithio gwneud y taliadau cyntaf o'r gwaddol yn 2020."
Cwricwlwm ehangach
Mae hon yn fenter ar y cyd rhwng Ms Williams a Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi.
Dywedodd Jaci Bates, pennaeth Ysgol Gynradd Woodlands yng Nghwmbr芒n fod plant yn cael budd mawr o chwarae offeryn cerddorol.
"Mae yna gymaint o ganolbwyntio ar lythrennedd a rhifyddeg fel ein bod ni mewn peryg o gyfyngu'r cwricwlwm ac anghofio buddiannau sy'n gallu dod o gael cwricwlwm ehangach," meddai.
Ers 2008 mae'r rhan fwyaf o gynghorau Cymru wedi torri cyllidebau ar gyfer gwasanaethau cerddoriaeth, wrth i feysydd fel gofal cymdeithasol gael blaenoriaeth.
Y llynedd fe wnaeth Cerddorfa Ieuenctid Cenedlaethol Cymru gofnodi'r nifer isaf erioed o bobl ifanc oedd yn gwneud cais i ymaelodi.
Fis diwethaf fe wnaeth yr arweinydd cerddorol a sylfaenydd y Proms Cymreig, Owain Arwel Hughes, rybuddio pwyllgor o aelodau'r Cynulliad na fydd Cymru'n parhau'n genedl gerddorol os "nad yw'r argyfwng ariannu gwersi cerdd mewn ysgolion yn cael ei ddatrys".
Dywedodd Mr Hughes wrth ACau nad mater o chwarae cerdd er mwyn mwynhau'n unig neu er mwyn gyrfa oedd yn bwysig, ond dywedodd ei fod yn hanfodol i ddatblygiad plant ac ni ddylai fod yn ddibynnol ar deuluoedd yn gallu fforddio talu am wersi ac offerynnau.
"Fe ddylai pawb gael yr un cyfle, heb amheuaeth o gwbl," meddai.
Dywedodd Phil George, cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru: "Mewn cyfnod heriol fel hyn mae gofyn am weithredu positif.
"Mae'n bwysicach nag erioed i ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc," meddai.
"Mae'r gronfa newydd yn wahoddiad i bobl yn y sectorau cyhoeddus a'r sector breifat i ymuno 芒 Llywodraeth Cymru i feithrin talent cerddorol ifanc."