Pryder am ddyfodol Coleg Harlech ym Meirionnydd

Mae Addysg Oedolion Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn symud cwrs addysg o safle Coleg Harlech i nifer o leoliadau eraill yng Ngwynedd.

Mae'r safle wedi darparu addysg i fyfyrwyr ers 90 mlynedd, ac mae'r newyddion yn ergyd i ymgyrchwyr sydd wedi bod yn bryderus am ddyfodol y coleg yn y dref.

Dywedodd y cynghorydd sir lleol Caerwyn Roberts wrth raglen y Post Cyntaf ar 大象传媒 Radio Cymru fore dydd Llun: "Mae yn siomedigaeth am y rheswm nad oes yna unrhyw fath o ymgynghori wedi digwydd.

"Mae'n edrych yn debyg ein bod yn mynd i golli'r ddarpariaeth yn Wern Fawr ond mae Wern Fawr yn adeilad bendigedig sydd wedi ei restru yn adeilad Rhestredig Gradd II.

"Mae yna bryder yn lleol am yr adeilad. Unwaith rydach chi'n cau adeilad maen nhw'n adfeilio yn fuan iawn. Mae yna bryder a phryder colli swyddi."

'Ail-leoli'

Dywedodd Kathryn Robson, Dirprwy Prif Weithredwr Addysg Oedolion Cymru: "Rydym yn ail-leoli'r ddarpariaeth Astudiaethau Cymdeithasol i rannau eraill o Wynedd, a bydd yr ehangu'n golygu y byddwn yn cyflwyno ein cyrsiau Lefel 3 mewn lleoliad cymunedol.

"Bydd hyn, felly, yn cynnig hyblygrwydd, ac yn ein galluogi i fod yn symudol ac yn ymatebol, a rhoi mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r ddarpariaeth Lefel 3, a chael lleoedd mewn prifysgolion yn y dyfodol."

Ychwanegodd y bydd y trefniadau dysgu presennol yn parhau am weddill y flwyddyn academaidd.

"Mae'r dewisiadau ar gyfer dyfodol tymor hir a chynaliadwy ar gyfer safle Wern Fawr yn parhau i gael eu trafod, tra bod cymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Gwynedd a Harlech yn Weithredol yn cynnal ymrwymiad i'r theatr er mwyn cadw'r gwasanaeth cymunedol."