Lluniau: Gwobrau'r Selar 2017

Roedd Nos Sadwrn 18 Chwefror yn noson fawr i gerddoriaeth Gymraeg wrth i bumed Gwobrau'r Selar gael ei gynnal yn Aberystwyth.

Y Bandana, sydd bellach wedi chwalu, oedd enillwyr mwya'r noson gan gipio pedair gwobr.

Dyma rai o uchafbwyntiau'r noson mewn lluniau:

Disgrifiad o'r llun, Ffracas oedd y Band Newydd Gorau. Fe enillodd y gr诺p o Bwllheli wobr y Record Fer Orau hefyd
Disgrifiad o'r llun, Cyfleus iawn!
Disgrifiad o'r llun, Cowbois Rhos Botwnnog, un o'r bandiau oedd yn perfformio ar y noson
Disgrifiad o'r llun, Derbyniodd Geraint Jarman wobr Cyfraniad Arbennig
Disgrifiad o'r fideo, Geraint Jarman yn trafod ei yrfa ddisglair gyda Lisa Gwilym ar 大象传媒 Radio Cymru
Disgrifiad o'r llun, Osian o'r Candelas - yr Offerynnwr Gorau - yn denu ymateb y dorf
Disgrifiad o'r llun, Does ryfedd eu bod nhw'n gwenu. Pedair gwobr i'r Bandana
Disgrifiad o'r llun, CaStLeS, un o artistiaid prosiect Gorwelion, yn perfformio ar y noson
Disgrifiad o'r llun, Am y drydedd flwyddyn yn olynnol Yws Gwynedd oedd yr Arist Unigol Gorau. Derbyniodd y wobr hefyd am y Fideo Cerddoriaeth Gorau gan Rhodri ap Dyfrig o S4C (enillydd crys mwyaf llachar y noson dybed?)

Enillwyr Gwobrau'r Selar 2016:

  • C芒n Orau: Cyn i'r Lle Ma Gau - Y Bandana
  • Hyrwyddwr Gorau : Maes B
  • Cyflwynydd Gorau: Lisa Gwilym
  • Artist Unigol Gorau: Yws Gwynedd
  • Band Newydd Gorau: Ffracas
  • Digwyddiad Byw Gorau: Maes B
  • Offerynnwr Gorau: Osian Williams
  • Gwaith Celf Gorau: Fel T么n Gron - Y Bandana
  • Band Gorau: Y Bandana
  • Record Hir Orau: Fel T么n Gron - Y Bandana
  • Record Fer Orau: Niwl - Ffracas
  • Fideo Cerddoriaeth Gorau: Sgrin - Yws Gwynedd