Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cynllun yr M4 am 'ddinistrio safle nythu' ar gyfer garanod
- Awdur, Steffan Messenger
- Swydd, Gohebydd Amgylchedd 大象传媒 Cymru
Mae wedi dod i'r amlwg y bydd y cynllun sydd dan ystyriaeth i uwchraddio traffordd yr M4 ger Casnewydd yn dinistrio'r safle nythu cyntaf yng Nghymru ar gyfer garanod ers dros 400 mlynedd.
Honnodd yr RSPB fod y canfyddiad, sydd wedi'i nodi mewn adroddiad ecolegol gan Lywodraeth Cymru, yn un enghraifft ymysg nifer o effaith niweidiol y datblygiad posib ar yr amgylchedd.
Bydd ymchwiliad cyhoeddus yngl欧n 芒'r cynlluniau yn agor fore Mawrth ac yn para am bum mis.
Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod y prosiect yn hanfodol, gyda thagfeydd ar yr M4 yn atal twf yn yr economi.
'Dafydd yn erbyn Goliath'
Paratoi at "frwydr Dafydd yn erbyn Goliath" mae grwpiau amgylcheddol.
Mae'r llwybr y mae'r llywodraeth yn ei ffafrio ar gyfer y ffordd yn torri drwy gorstiroedd hynafol Gwastadeddau Gwent, sy'n hafan i bob math o fywyd gwyllt.
Yn ogystal 芒 phlanhigion prin, pryfed a mamaliaid d诺r fel llygod cwta a dyfrgwn, y rhywogaeth ddiweddara' i gael ei weld yno yw'r garan neu'r cr毛yr llwyd.
Yn ystod y gwanwyn llynedd fe hedodd p芒r o'r adar o Wlad yr Haf i nythu ar y gwastadeddau, gan ddeor y cyw Cymreig gynta' ers dros 400 mlynedd.
Ffrwyth llafur prosiect ddechreuodd yn 2010 oedd hyn, gyda'r RSPB wedi bod yn ailgyflwyno'r adar i ardal o wlypdir ger Langport yng Ngwlad yr Haf.
Yn 么l Damon Bridge, rheolwr y prosiect, mae ganddo "bryderon sylweddol" am brosiect ffordd osgoi'r M4, gan ychwanegu y byddai'n cael sgil-effaith anochel ar yr adar prin, sydd angen "amgylchedd tawel iawn, lle na ch芒n nhw eu tarfu."
"Fe ddiflannodd yr adar yma yn llwyr o Brydain, rhywbryd yn y 1600au.
"Mae'u gweld nhw yn lledu yn 么l i'w hen gynefinoedd yn tanlinellu pwysigrwydd gwarchod eu gwlypdiroedd - fel Gwastadeddau Gwent."
"Os oes gyda chi garanod yn 么l fel rhan o'r tirlun - gall y tirlun hwnnw ond a bod yn un iach, sy'n cynnal bioamrywiaeth," meddai.
Ychwanegodd Daniel Jenkins-Jones, Pennaeth Materion Cyhoeddus yr elusen, ei bod hi'n "dorcalonnus bod 'na fygythiad mawr i'r adar ar 么l yr holl ymdrech o'u cael nhw yn 么l i nythu yng Nghymru."
"Mae'r ffaith bod Llywodraeth Cymru hyd yn oed yn ystyried rhoi'r M4 drwy'r cynefin amhrisiadwy yma yn dangos diffyg meddwl am genedlaethau'r dyfodol," meddai.
'Torcalonnus'
Bydd llu o gyrff amgylcheddol yn rhoi tystiolaeth i'r ymchwiliad cyhoeddus, fydd yn craffu ar gynlluniau'r llywodraeth cyn llunio argymhellion.
Dywedodd Mike Webb o elusen Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent na ddylai'r cynllun fod wedi cael cyrraedd mor bell ag ymchwiliad cyhoeddus yn y lle cynta'.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno gorchymyn prynu gorfodol i'r elusen er mwyn hawlio cyfran o'u gwarchodfa natur ym Magwyr ar gyfer adeiladu'r ffordd.
"Mae'n dorcalonnus y gallai'r fath draffordd ddinistrio cymaint o dir, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol drwy lygru d诺r ac aer," meddai.
"Mae'n frwydr Dafydd yn erbyn Goliath i ni mewn ffordd.
"Elusen fach ydyn ni, ond byddwn ni'n taflu popeth at yr ymchwiliad i wneud yn si诺r bod ein neges ni yn cael ei chlywed."
Mae Llywodraeth Cymru yn addo mesurau i ddigolledi byd natur ac yn dadlau y byddai atal tagfeydd yn lleihau allyriadau carbon a llygredd aer.
Craffu ar y cynlluniau
Ond dadlau bod pwysigrwydd y tir, sydd wedi'i warchod dan y gyfraith drwy gyfres o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Eithriadol, yn golygu na fyddai'n bosib cyflwyno mesurau eraill fyddai'n gwneud yn iawn am y difrod, mae Mr Webb.
"Mae'n gynllun hunllefus a byddwn ni'n trio'n gorau glas i annog Gweinidog yr Economi i neud y penderfyniad iawn er budd ein plant a phlant ein plant."
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai'r ymchwiliad cyhoeddus yn golygu bod modd craffu mewn fforwm agored ar eu cynlluniau a'r mesurau i ddigolledi'r amgylchedd.
"Bydd hynny'n gadael i arolygwyr annibynnol benderfynu prun ai hyn yw'r ateb cynaliadwy, hirdymor ar gyfer y problemau sylweddol sydd wedi'u cysylltu 芒'r fynedfa yma i Gymru."
"Bydd canlyniad yr ymchwiliad yn hysbysu ein penderfyniad terfynol prun ai i fwrw ati 芒'r gwaith adeiladu ai peidio."